Ewch i’r prif gynnwys

Myfyriwr sy'n perfformio orau yn cael ei gydnabod

3 Chwefror 2022

Cole Cornford receives his book prize

Mae Cole Cornford, a gwblhaodd MSc Trafnidiaeth a Chynllunio yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio ddiwedd 2021, wedi derbyn cydnabyddiaeth am ei berfformiad academaidd rhagorol.

Cole oedd y myfyriwr a oedd yn perfformio orau ar raglen y Meistr, a chafodd gopi o lyfr arobryn yr Athro Emeritws Huw Williams, Forecasting Urban Travel Past, Present and Future.

Cyd-awdurwyd y gyfrol gyda'r Athro David Boyce o Brifysgol Illinois yn Chicago, ac enillodd Wobr Goffa William Alonso am Waith Arloesol mewn Gwyddoniaeth Ranbarthol.

Dywedodd Dr Dimitris Potoglou, Cyfarwyddwr y Rhaglen: "Rwy'n falch iawn o weld Cole yn symud ymlaen mor dda yn ei astudiaethau. Mae e wedi gweithio'n galed iawn i ennill y wobr haeddiannol hon. Llongyfarchiadau, Cole!

"Hoffwn hefyd ddiolch i'r Athro Williams am ei haelioni'n rhoi copi o'i lyfr sy’n pennu agenda – cyfeirlyfr allweddol i bob ymchwilydd ac ymarferwr teithio – unwaith eto'n wobr. Gwerthfawrogir yn fawr ei gefnogaeth barhaus i'r Ysgol, ein gwaith, ac i’n myfyrwyr eithriadol."

Roedd Cole yn fyfyriwr israddedig yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, gan raddio gyda BSc mewn Cynllunio a Datblygu Trefol yn 2020. Dyfarnwyd bwrsariaeth Cronfa Bwrsariaeth Brian Large iddo gwblhau ei MSc mewn Trafnidiaeth a Chynllunio, un o brif raglenni'r Ysgol.

Dywedodd Cole: "Mae'n anrhydedd i mi fod wedi derbyn y llyfr 'Forecasting Urban Travel, Past, Present and Future' gan yr Athro Huw Williams. Er fy mod wedi profi llawer o heriau personol yn ystod fy mlwyddyn ar y cwrs Trafnidiaeth a Chynllunio yn ystod pandemig COVID-19, mae fy amser yn astudio wedi bod yn brofiad pleserus a boddhaus.

"Hoffwn ddiolch i'r holl staff addysgu a'm ffrindiau ar y cwrs am y gefnogaeth y maent wedi'i rhoi i mi yn ystod fy astudiaethau, ochr yn ochr â'r Athro Huw Williams am gyfraniad caredig ei lyfr."

Rhannu’r stori hon