Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect Ansawdd Aer Dan Do EPSRC IAA mewn Ysgolion Cynradd yn cyflwyno’i weithdai cyntaf mewn ysgolion

1 Chwefror 2022

Indoor Air Quality in Primary Schools
Indoor Air Quality in Primary Schools

Mae tîm Prosiect Ansawdd Aer Dan Do EPSRC IAA mewn Ysgolion Cynradd wedi cynllunio a chyflwyno nifer o weithdai gyda disgyblion o'r Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 i drafod yr hyn y maent yn ei wybod am adeiladau a chynaliadwyedd yn fodd i’w grymuso i gymryd camau sy'n meithrin amgylchedd da dan do mewn ffyrdd cynaliadwy.

Mae Ansawdd Aer Dan Do mewn Ysgolion Cynradd yn brosiect effaith rhyngddisgyblaethol sy'n ceisio cefnogi Cynghorau ac ysgolion cynradd i gynnal amodau amgylcheddol da mewn ystafelloedd dosbarth a mannau eraill o dan do. Ei nod hefyd yw cynhyrchu adnoddau dysgu ar gyfer plant ac athrawon a chanllawiau i ysgolion a chynghorau er mwyn cynnal amodau amgylcheddol da mewn ystafelloedd dosbarth a mannau eraill o dan do.

Roedd cam cyntaf y gweithdai, 'Meddygon Adeiladau', yn cynnwys gweithgareddau ymarferol lle defnyddiodd y disgyblion offerynnau monitro i ddatblygu sgiliau rhifedd ac archwilio cysyniadau am berfformiad adeiladau. Roedd gweithgareddau ac adnoddau'r gweithdy wedi'u teilwra i wybodaeth, galluoedd a sgiliau gwahanol grwpiau oedran a chymhlethdod cysyniadau sy'n ymwneud â pherfformiad adeiladau, amgylchedd dan do a chysur mewn adeiladau ac ynni mewn adeiladau. Mae’r gweithdai STEM ymarferol hyn yn annog plant i ymarfer sgiliau rhifedd. Cynhyrchodd y plant ddeunyddiau megis lluniadau, tablau, crefftau a siartiau fel rhan o'r gweithdy a defnyddio dyfeisiau monitro i archwilio cysyniadau am berfformiad adeiladau, gan ddefnyddio eu hysgolion eu hunain yn Labordai Byw. Mae’r disgyblion yn cymryd rhan mewn gweithgareddau estynedig wedi’r gweithdy, a dilynir hynny gan ail gyfnod o weithdai, sydd i’w cyflwyno ym mis Chwefror a mis Mawrth.

Mae tîm y prosiect yn cynllunio digwyddiad yn y gwanwyn i gyflwyno uchafbwyntiau a chanfyddiadau allweddol y prosiect hwn a’u trafod gydag athrawon, ysgolion, cynrychiolwyr o Gynghorau sy'n gweithio ar fonitro, rheoli a pherfformiad adeiladau ac addysg ynghylch sut gall y gwersi a ddysgwyd gefnogi ymdrechion parhaus ysgolion a chynghorau i hyrwyddo amgylchedd dan do da mewn ffyrdd cynaliadwy mewn ystafelloedd dosbarth, a meithrin addysg gynaliadwyedd ymhlith plant ysgolion cynradd.

Os hoffech wybod mwy am y prosiect hwn neu os hoffech gymryd rhan mewn gweithgareddau yn y dyfodol, cysylltwch â Dr Zapata-Lancaster.

Dr Gabriela Zapata-Lancaster

Dr Gabriela Zapata-Lancaster

Lecturer

Email
zapatag@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 0643

Rhannu’r stori hon