Ewch i’r prif gynnwys

Gallai ymchwil o Gymru ddod o hyd i sbardunau newydd sy’n arwain at drawiadau ar y galon a strociau

31 Ionawr 2022

Bydd ymchwilydd o Brifysgol Caerdydd yn arwain prosiect i ymchwilio i gysylltiadau posibl rhwng cleifion sy'n cael heintiau'r llwybr wrinol (UTI) a dioddef trawiad ar y galon neu strôc.

Meddyg Teulu o Rondda Cynon Taf ac Uwch-ddarlithydd Clinigol mewn Epidemioleg yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd yw Dr Harry Ahmed.

Mae'n gobeithio y gallai'r astudiaeth, sy'n cael ei hariannu gan Sefydliad Prydeinig y Galon (BHF) Cymru, arwain at ganlyniadau gwell i gleifion yn y dyfodol.  

Dyma a ddywedodd Dr Ahmed: “Pan fydd gan rywun haint, mae’r system imiwnedd yn ymateb mewn ffordd a allai effeithio ar system cylchrediad y gwaed; hwyrach y bydd y newidiadau hyn yn cynyddu'r risg o gael trawiad ar y galon neu strôc.

“Cyn hyn, canfu ymchwilwyr fod y risg o drawiad ar y galon neu strôc yn sylweddol uwch yn dilyn haint ar y llwybr anadlol, megis y ffliw neu niwmonia. Arweiniodd y gwaith hwn at dreial clinigol, sef rhoi aspirin i bobl sy’n gadael yr ysbyty ar ôl niwmonia i weld a yw’n eu hamddiffyn rhag trawiad ar y galon.”

Mae Dr Ahmed yn arwain tîm o ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd sydd wedi cael bron i £220,000 gan y BHF dros dair blynedd i ymchwilio i’r cysylltiad posibl rhwng cleifion sydd wedi cael diagnosis o UTI a risg uwch o drawiad ar y galon neu strôc.

“Mae heintiau wrin yn gyffredin ond maen nhw’n gallu bod yn anodd i’w diagnosio, yn enwedig ymhlith yr henoed, a gallan nhw arwain at gryn salwch a gorfod mynd i’r ysbyty,” meddai.

Gall ymchwilwyr cymeradwy gyrchu gwybodaeth iechyd am gleifion dienw yng Nghymru mewn banc data o'r enw SAIL ym Mhrifysgol Abertawe, sef y
Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r system. Mae’n cael ei hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac mae’n gweithio mewn partneriaeth ag Iechyd a Gofal Digidol GIG Cymru.

Aeth Dr Ahmed yn ei flaen: “Bydd ymchwilwyr yn defnyddio galluoedd gwyddor data rhagorol Banc Data SAIL yng Nghymru i gysylltu data cofnodion meddygon teulu, derbyniadau i’r ysbyty, a labordai’r GIG â’i gilydd, a hynny i ymchwilio i’r cysylltiad rhwng heintiau wrin a thrawiadau ar y galon neu strociau, yn fanylach nag erioed o’r blaen.

“Os canfyddir bod yno gysylltiad, bydd yn braenaru’r tir ar gyfer rhagor o dreialon clinigol i brofi triniaethau, a hynny i weld a ellir atal y digwyddiadau difrifol hyn.”

Dyma a ddywedodd Adam Fletcher, Pennaeth BHF Cymru: “Yng Nghymru mae cymaint â 5,000 o dderbyniadau i’r ysbyty bob blwyddyn oherwydd trawiad ar y galon, sef 1 bob 100 munud. Ein gobaith, drwy ariannu ymchwil arloesol megis un Dr Ahmed, yw y byddwn ni’n gallu adnabod y rheiny sydd mewn perygl o gael trawiad ar y galon neu strôc ac atal y cyflyrau hyn sy’n bygwth bywyd cyn iddyn nhw ddigwydd.”

Mae’r BHF wedi lansio ymgyrch o’r enw Dyma Wyddoniaeth (This is Science), sy’n galw am gefnogaeth y cyhoedd i roi hwb i wyddoniaeth a allai arwain at driniaethau a dulliau newydd o iacháu pobl yn achos yr holl glefydau ar y galon a chylchrediad y gwaed.

Rhannu’r stori hon