Ewch i’r prif gynnwys

Dewch i gwrdd ag enillwyr Gwobrau Cymuned Myfyrwyr y Biowyddorau 2020-21

31 Ionawr 2022

Student Community Award winner 20-21
L-R: Prof Jim Murray, Edward Johnston, Gizem Boya, Katie Mainwood, Tobechi Egole, William Dawson, Dr Sarah Hall

Cydnabod israddedigion am eu cyfraniad ysbrydoledig i'r gymuned myfyrwyr

Crëwyd Gwobrau Cymuned Myfyrwyr Ysgol y Biowyddorau gan Dr Sarah Hall, Darllenydd ac Arweinydd Profiad Myfyrwyr, i ddathlu aelodau ymroddedig a hael o'n cymuned myfyrwyr. Bob blwyddyn, gwahoddir myfyrwyr israddedig i enwebu cyfoedion ar gyfer tri chategori.

Cyflwynwyd tystysgrifau i enillwyr Blwyddyn 1 a 2 2020-21 gan yr Athro Jim Murray, Pennaeth yr Ysgol, mewn seremoni wobrwyo ar y campws, tra bydd enillwyr y flwyddyn olaf yn derbyn eu tystysgrifau nhw yn y seremoni raddio yn ddiweddarach eleni.

Dywedodd yr Athro Murray: "Rydym yn cydnabod ei fod wedi bod yn ddwy flynedd anodd iawn. Rydym yn awyddus iawn i ailadeiladu cymuned ein Hysgol, ac fel cymuned myfyrwyr rydych wedi dangos mai un o'r pethau pwysicaf yw caredigrwydd. Mae'n lledaenu fel firws, ond mewn ffordd dda ."

Diolchodd y Cyfarwyddwr Addysg Israddedig Dr Hefin Jones i'r enillwyr am "gerdded yr ail filltir i fod yno i'w cyfoedion". Ychwanegodd: "Mae'n rhoi cymaint o foddhad fod ein myfyrwyr yn y Biowyddorau ar flaen y gad o ran ail-greu'r ymdeimlad hwnnw o gyfrifoldeb colegol sydd ei angen arnom i gyd, ac rydym yn hynod falch ohonoch am gyflawni hyn pan fu'n rhaid i'r rhan fwyaf o'n hamser fod oddi ar y campws ac ar-lein. Diolch yn fawr.”

Cyflwynwyd y Gwobrau yn 2019-20 ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn olaf a chawsant eu hymestyn i fyfyrwyr ar draws pob un o flynyddoedd y radd yn 2020-21.

Dyma enillwyr Gwobrau 2020-21:

Gwneud gwahaniaeth

Blwyddyn 1: Gizem Boya, BSc Niwrowyddoniaeth
"Rydw i’n rhannu fflat â Gizem a hi yw un o'r bobl mwyaf hael dwi erioed wedi cwrdd â nhw ... i mi mae ei phresenoldeb wedi newid fy fywyd."

Blwyddyn 2: Tobechi Egole, BSc Gwyddorau Biofeddygol
"Mae Tobechi bob amser wedi mynd allan o'i ffordd i sicrhau bod holl leisiau ei chyd-fyfyrwyr wedi cael eu clywed. Mae hi wedi bod yn berson delfrydol yn yr holl rolau y mae hi wedi ymgymryd â nhw ac mae'n gaffaeliad mawr i Brifysgol Caerdydd."

Y flwyddyn olaf: Lily Thomas, BSc Biocemeg
"Mae gan Lily gymhelliant ac angerdd anhygoel o ran y brifysgol. Dangosodd hynny drwy gynrychioli biowyddoniaeth mewn cystadleuaeth gydag IGEM yn Boston yn ogystal â gweithio ar ddiwrnodau agored a bod yn gynrychiolydd myfyrwyr."
"Mae Lily wedi bod yn gynrychiolydd myfyrwyr rhagorol eleni, wastad yn cadw llygad ar fyfyrwyr drwy sgyrsiau grŵp ac yn gofyn am adborth ar y cwrs. Gwnaeth Lily yn siŵr bod ymatebion gan yr ysgol yn cael eu hanfon atom, cefnogodd fyfyrwyr PTY wrth iddynt integreiddio'n ôl i'r brifysgol ar ôl y pandemig a gwnaeth yn siŵr ein bod yn cael ein cynrychioli ar banelau! Diolch Lily!"

Mwyaf ysbrydoledig

Blwyddyn 1: Edward Johnston, BSc Gwyddorau Biofeddygol
"Byddai'n anodd i chi ddod o hyd i unrhyw un arall sydd â'r un lefel o frwdfrydedd, caredigrwydd ac ymroddiad ag sydd gan Ed o ran biowyddoniaeth ac rydw i wir yn credu ei fod yn rhan sylfaenol o'r hyn sy'n gwneud i'r cwrs deimlo'n lle mwy cynhwysol a chroesawgar."

Blwyddyn 2: Katie Mainwood, BSc Gwyddorau Biolegol
"Mae wedi sicrhau blwyddyn lleoliad anhygoel ar gyfer y flwyddyn nesaf, mae’n tiwtora yn ei hamser sbâr yn ogystal â gwirfoddoli gyda’r Geidiaid!"

Y flwyddyn olaf: Holly Giles, BSc Gwyddorau Biofeddygol
"Mae Holly Giles yn ymgorfforiad o ysbrydoliaeth. Mae wedi ennill gwobr mentora'r flwyddyn, wedi dangos ymroddiad a brwdfrydedd yn gyson i waith prifysgol a gweithgareddau allgyrsiol, ac mae'n rhagori ar hyn oll i fod yn berson hyfryd, er gwaethaf anawsterau bod yn y brifysgol yn ystod COVID. Mae hi wedi gweithio ar y Gair Rhydd ers yr ail flwyddyn, gan weithio ei ffordd i fyny i Ddirprwy Olygydd, ac ysgrifennu darnau manwl a gafaelgar yn ymwneud â byd gwyddoniaeth."

Dinasyddiaeth

Blwyddyn 2: William Dawson, BSc Gwyddorau Biolegol
"Mentor myfyrwyr gwych ac mae wedi cynnal grwpiau astudio rheolaidd i gefnogi ei gyfoedion."
"Wastad yn gofyn cwestiynau mewn darlithoedd ac yn gwneud yn siŵr fod y darlithwyr eu hunain yn teimlo'n normal yn y flwyddyn anodd hon (e.e. drwy danio ei gamera a dechrau ffasiwn o wneud hynny)."

Rhannu’r stori hon