Ewch i’r prif gynnwys

Pedwar cyfle i sicrhau ysgoloriaeth ôl-raddedig

21 Ionawr 2022

PhD students working together in a library

Mae Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd yn falch o gyhoeddi bod pedair ysgoloriaeth PhD ar gael i gefnogi ei chyrsiau.

Mae’r Ysgol yn ganolfan flaenllaw ar gyfer ymchwil i ddaearyddiaeth ddynol a chynllunio sy’n rhoi pwyslais ar helpu myfyrwyr i wireddu eu potensial llawn. Mae’r ysgoloriaethau sy’n cael eu cynnig yn dangos amrywiaeth y cyfleoedd sydd ar gael i wneud ymchwil.

Bydd “Atal digartrefedd wrth groestoriad polisïau gelyniaethus: profiadau ffoaduriaid ifanc yng Nghaerdydd” yn ymchwilio i brofiadau o letya ymhlith ffoaduriaid ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.

Bydd “Marchnadoedd da byw fel safleoedd therapiwtig: gwerthuso dulliau’r trydydd sector o ymdrin ag iechyd gwledig yng Nghymru” yn ymchwilio i rôl marchnadoedd da byw yn y gwaith o roi gofal a chymorth i ffermwyr a chymunedau gwledig.

Bydd “Datblygu model o annog bioddiogelwch ar gyfer twbercwlosis buchol: archwiliad o’r gwahanol ffyrdd o gyfleu bioddiogelwch a ddefnyddir gan filfeddygon a chynghorwyr ffermydd” yn ymchwilio i sut mae dulliau ffermwyr o sicrhau bioddiogelwch mewn gwahanol feysydd lle ceir risg o glefydau anifeiliaid yn amrywio yn ôl ardal ddaearyddol.

Gyda chymorth Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru ESRC, mae’r Ysgol hefyd yn gwahodd ceisiadau i astudio ar gyfer PhD yn gyffredinol, lle bydd yn bosibl sicrhau ysgoloriaeth wedi’i hariannu’n llawn ym meysydd daearyddiaeth ddynol a chynllunio amgylcheddol, a fydd yn dechrau ym mis Hydref 2022.

Rhannu’r stori hon