Ewch i’r prif gynnwys

Yr Athro Aseem Inam yn cyhoeddi rhifyn arbennig o gyfnodolyn ar newid trefol

17 Ionawr 2022

CEPT library construction workers
CEPT library construction workers

Yr Athro Inam, deiliad Cadair Dylunio Trefol yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, yw golygydd gwadd rhifyn arbennig o'r cyfnodolyn rhyngwladol Urban Planning ar thema "City as flux: Interrogating the changing nature of urban change."

Cynsail y rhifyn arbennig yw bod trefolion - yn enwedig y rheini sydd â chefndir mewn meysydd proffesiynol fel pensaernïaeth, pensaernïaeth tirwedd, dylunio trefol a chynllunio dinesig - yn tueddu i fod wedi'u hyfforddi i ystyried dinas fel gwrthrych sydd wedi'i gynllunio, dylunio a'i adeiladu yn ôl gweledigaethau pendant.  Mewn gwirionedd, mae'r ddinas yn newid yn barhaus ar raddfeydd amser gwahanol: yn ôl yr awr, yr wythnos, y flwyddyn, y degawd a'r ganrif.  Felly tra bo daearyddwyr a haneswyr trefol wedi astudio newid ers tro, nid yw meddwl o'r fath eto wedi treiddio i ymarfer trefol mewn ffordd ystyrlon.  Beth fyddai'r manteision, pe bai trefolaeth, fel gwrthrych i'w astudio ac fel dull ymarfer, yn cael ei ystyried o safbwynt newid parhaus yn hytrach na fel gwrthrych yn unig?  Pam fyddai gwrthdroi blaenoriaethau ontolegol fel hyn yn ddefnyddiol?  Byddai'n ddefnyddiol am dri rheswm.

Yn gyntaf, mae'n galluogi ymchwilwyr i sicrhau dealltwriaeth lawnach o ficro-brosesau newid trefol ar waith.  Er enghraifft, i ddeall trefolaeth yn fwy cywir, rhaid caniatáu ar gyfer ymddangosiad a syndod; hynny yw, rhaid ystyried y posibilrwydd fod gan drefolaeth oblygiadau y tu hwnt i'r hyn a ddychmygwyd yn wreiddiol.  Yn ail, yn ogystal â pheidio â gwybod llawer am ficro-brosesau newid, yn aml ni wyddom ni ddigon am sut y caiff newid ei gyflawni mewn gwirionedd.  Er mwyn deall hyn, mae angen i ni gael dadansoddiad o drefolaeth sy'n ddigon manwl i ddangos sut y cyflawnwyd newid ar lawr gwlad, hynny yw, sut y troswyd syniadau'n weithredoedd, a thrwy wneud hynny, sut y cawsant eu haddasu, eu cymhwyso a'u newid.  Yn drydydd, mae un rheswm pwysig dros anfodlonrwydd gyda'r agwedd draddodiadol at newid - yr agwedd sy'n blaenoriaethu sefydlogrwydd ac sy'n trin newid fel epiffenomen - yn batrymol.  Yn aml nid yw strategaethau ar gyfer newid ar sail y farn honno'n cynhyrchu newid, heb sôn am drawsnewid.

Drwy broses drylwyr o adolygu dwbl-ddall gan gymheiriaid, derbyniwyd chwe erthygl i'w cyhoeddi yn y cyfnodolyn, gan gynnwys "Fits‐and‐Starts: The Changing Nature of the Material City" gan yr Athro Inam, a "Change by Activism: Insurgency, Autonomy and Political Activism in Potosí-Jerusalén in Bogotá, Colombia" gan Juan Usubillaga, myfyriwr doethurol yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru.  Mae'r rhifyn arbennig cyfan ar gael ar-lein yn gyhoeddus ac am ddim.

Rhannu’r stori hon