Ewch i’r prif gynnwys

Athro o Gaerdydd yn cadeirio prosiect ailgychwyn carbon isel cyntaf y byd

10 Ionawr 2022

Yr Athro Nick Jenkins yw Cadeirydd y Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid ar gyfer prosiect Distributed ReStart – menter £10m sy’n edrych ar y potensial ar gyfer dull carbon isel o ailgychwyn y system bŵer.

Dechreuodd y prosiect £10.3 miliwn a gyllidir gan Ofgem ac a elwir yn Distributed ReStart, ym mis Ionawr 2019. Dan arweiniad ESO y Grid Cenedlaethol, Rhwydwaith Ynni SP a'r cwmni ymgynghori TNEI, mae'r fenter gyntaf o'i math yn y byd wedi edrych ar sut y gellir defnyddio adnoddau ynni gwasgaredig fel solar, gwynt a dŵr, i adfer pŵer i'r rhwydwaith trosglwyddo os, yn annhebygol, ceir toriad yn y cyflenwad, proses a elwir yn gychwyn du. Byddai hyn yn cael gwared ar ein dibyniaeth ar eneraduron tanwydd ffosil mawr a chostus i ddarparu gwasanaeth cychwyn du ac yn creu glasbrint ar gyfer ei fabwysiadu'n rhyngwladol.

Mae'r cynllun presennol ar gyfer toriad pŵer cenedlaethol yn dilyn dull o'r brig i lawr, ac yn adlewyrchu'r system bresennol sydd wedi'i chanoli i raddau helaeth iawn. Ond wrth i ni symud at ddefnyddio pŵer mwy gwasgaredig – mae ESO wedi addunedu i redeg grid wedi'i ddatgarboneiddio erbyn 2035 – mae'n hanfodol profi a chynllunio ar gyfer y senario wahanol iawn hon. Er bod toriad cenedlaethol mewn gwasanaethau yn cael ei ystyried yn annhebygol, pe bai'n digwydd a phe na bai modd ei adfer yn gyflym, gallai'r effaith fod yn drychinebus.

"Mae'r prosiect yn ateb her sylfaenol, ac o ystyried y nod o sicrhau bod y rhwydwaith trydan yn sero net erbyn 2035, mae hyn yn rhywbeth sydd angen sylw nawr."

Yn adroddiad Wythnos Cyfleustodau ‘Ready for low carbon restart?’ mae'r Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid yn pwyso a mesur y prosiect a'r rhwystrau wrth symud ymlaen. Mae'r grŵp yn ystyried pynciau fel i ba raddau mae'r prosiect wedi ein galluogi i ddeall dichonoldeb technegol a masnachol gwasanaethau adfer gwasgaredig ac yn edrych ar farn rhanddeiliaid ar a yw'r cynnydd hwn yn ddigon i sicrhau eu hyder mewn mesur mor bwysig i ddiogelu'r system.

Bydd y prosiect yn parhau tan ddiwedd mis Mehefin 2022 ar ôl cwblhau dau dreial arall.

O ran dyfodol y prosiect, mae'r Athro Jenkins yn meddwl mai'r ateb yw parhau i ddatblygu'r prosiect: "Mae ffordd bell i fynd tan i ni gyrraedd sefyllfa o fusnes yn ôl yr arfer. Ceir problemau technegol a chyfathrebu mawr o hyd, a hefyd mae angen sefydlu trefniadau sy'n seiliedig ar y farchnad. Roedd cyflawni hynny mewn tair blynedd yn eithriadol o uchelgeisiol o'r dechrau."

Dywed yr Athro Jenkins y byddai'r prosiect yn deilwng i gael cymorth ariannol ychwanegol i'w ddatblygu ymhellach. "Byddwn i'n sicr yn annog mwy o gyllid arloesi oherwydd mae'n broblem mor fawr - ac mae'r angen mor bwysig." 

Ceir rhagor o wybodaeth am y prosiect ar wefan y Grid Cenedlaethol.

Rhannu’r stori hon