Ewch i’r prif gynnwys

Cynorthwy-ydd Ymchwil Ôl-Ddoethurol yn ennill gwobr i unigolion ar ddechrau eu gyrfa

14 Ionawr 2022

Mae'n bleser gan Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd gyhoeddi mai Sophie Cox yw enillydd Medal Ramsay y Grŵp Astudiaethau Tectonig yn dilyn pleidlais.

A hithau’n cael ei rhoi gan Grŵp Astudiaethau Tectonig y Gymdeithas Ddaearegol, mae’r wobr am y cyhoeddiad gorau sy'n deillio'n uniongyrchol o brosiect PhD yn y flwyddyn flaenorol ym maes tectoneg a daeareg strwythurol.

Enillodd Sophie Cox y wobr am ei phapur, 'Shear zone development in serpentinized mantle: Implications for the strength of oceanic transform faults.'

Bydd yn cael £200, ynghyd â medal wedi’i harysgrifio a thystysgrif. Mae’r wobr yn cael ei rhoi yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Mae wedi’i henwi ar ôl y diweddar John Ramsay, a fu farw ym mis Ionawr 2021.

Mae prif ddiddordebau ymchwil Sophie yn cynnwys sut mae ffawtiau trawsffurfiol cefnforol yn achosi gweithgarwch seismig ar eu hyd a sut maent yn rhannu straen yn ôl rhwyg seismig ac aseismig.

Ar ran pawb yn Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd, mae'n bleser mawr llongyfarch Sophie ar ennill y wobr arbennig hon.