Ewch i’r prif gynnwys

Esbonio beilïaid - llyfr newydd yn archwilio maes o orfodi'r gyfraith nad yw wedi cael sylw

7 Ionawr 2022

Mae llyfr newydd ar asiantau gorfodi'r gyfraith, a adwaenir yn gyffredin fel beilïaid, wedi'i ysgrifennu gan Uwch-ddarlithydd yn y Gyfraith yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.

Cyhoeddwyd cyfrol Dr Wendy Kennett, Civil Enforcement in a Comparative Perspective ym mis Tachwedd 2021 ac mae'n edrych ar faes o orfodi'r gyfraith sydd yn hanesyddol heb ei gofnodi mewn cylchoedd academaidd. Mae llawer wedi'i ysgrifennu ar reoleiddio cyfreithwyr, y weithdrefn sifil, y farnwriaeth a gweinyddu'r llysoedd sifil yn Ewrop ond yn wahanol i'r sefyllfa mewn achosion troseddol, mae'n ymddangos bod diddordeb academaidd yn y broses sifil yn lleihau yn dilyn y dyfarniad terfynol.

Mae asiantau gorfodi sifil yn ymarfer awdurdod y wladwriaeth ac mewn llawer o wledydd mae ganddynt fynediad helaeth at wybodaeth am ddyledwyr sy'n eu gwneud yn rhan bwysig o'r peirianwaith cyfiawnder.  Mae gan feilïaid yng Nghymru a Lloegr y pŵer i atafaelu nwyddau a chyflawni dadfeddiannu, ond mewn gwledydd eraill mae atafaelu amrywiaeth llawer ehangach o asedau yn aml wedi'i ganoli yn nwylo un sefydliad gorfodi.

Wrth sôn am ei llyfr, dywedodd Dr Kennett, "Mae asiantau gorfodi sifil fel pwnc yn diriogaeth ymchwil hynod o ffrwythlon. Roeddwn i'n syn i weld bod cyn lleied wedi'i ysgrifennu am grŵp o bobl sydd â phwerau gorfodi sylweddol."

Mae llyfr Dr Kennett yn ymchwilio i'r gwahaniaethau annisgwyl o ran rheoleiddio beilïaid ledled Ewrop ac yn gofyn i ba raddau y mae llywodraethau'n cymryd cyfrifoldeb am reoli gweithgareddau gorfodi yn gyhoeddus yng ngoleuni eu heffaith ar ddinasyddion, rôl gynyddol credyd fel rhan o bolisi cynhwysiant ariannol, a'r lefelau cynyddol dilynol o ddyled defnyddwyr ledled Ewrop, sydd wedi gwaethygu yn sgil y pandemig.

Mae Dr Kennett yn dysgu ar fodiwlau Contract a Chyflafareddu Masnachol yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ac mae wrthi'n cyflwyno modiwl newydd ar y Gyfraith a Thlodi. Dr Kennett oedd Cadeirydd Sefydlu'r Grŵp Diwygio Cyfraith Beilïaid (BLRG), a elwir bellach yn Grŵp Adolygu Cyfraith Gorfodi - fforwm trafod traws-ddiwydiant, nad yw'n llunio polisïau.

Ceir rhagor o wybodaeth am lyfr Dr Kennett ar wefan Intersentia.

Rhannu’r stori hon