Ewch i’r prif gynnwys

Ali Abdi, rheolwr Partneriaethau Porth Cymunedol yn cael medal BEM

21 Rhagfyr 2021

Ali Abdi with his BEM medal
Ali Abdi with his BEM medal

Yr wythnos diwethaf, cafodd rheolwr partneriaethau Porth Cymunedol, Ali Abdi Fedal Ymerodraeth Brydeinig (BEM) gan gynrychiolydd Ei Mawrhydi y Frenhines, Arglwydd Raglaw De Morgannwg Mrs Morfudd Meredith ac ym mhresenoldeb Arglwydd Faer Dinas Caerdydd Rod McKerlich.

Ymunodd Ali â thîm prosiect y Porth Cymunedol yn 2015 ac mae wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddatblygu perthynas hirhoedlog, buddiol ac ystyrlon rhwng Prifysgol Caerdydd a chymunedau yn Grangetown a'r cyffiniau. Mae hefyd wedi tyfu rhwydwaith cryf ar draws yr holl Golegau a’r Gwasanaethau Proffesiynol ym Mhrifysgol Caerdydd, cynrychiolwyr y Llywodraeth, sefydliadau'r trydydd sector, ac aelodau o'r gymuned.

Derbyniodd Ali Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig am ei wasanaeth i'r gymuned Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghaerdydd. Cyhoeddodd Swyddfa'r Cabinet y newyddion yn swyddogol ar ran EM y Frenhines yn rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2019 ond gohiriwyd y seremoni gyflwyno oherwydd y pandemig parhaus.

Wrth dderbyn ei Fedal Ymerodraeth Brydeinig dywedodd Ali:

"Braint ac anrhydedd o’r mwyaf yw derbyn y wobr hon am rywbeth rwy’ wrth fy modd yn ei wneud bob dydd. Mae fy nheulu'n falch iawn o'r hyn rwy’ wedi'i gyflawni, a phan ddywedais wrth fy rhieni roeddynt wrth eu bodd. Rwy’ mor falch fy mod mewn sefyllfa bob dydd i wasanaethu fy nghymuned a rhoi cymorth i bobl pan yn aml, does neb arall ganddynt i droi ato. Mae'n fraint cael fy anrhydeddu ar lefel genedlaethol."

Llongyfarchiadau Ali!

Rhannu’r stori hon