Ewch i’r prif gynnwys

Rhywbeth i bawb gyda Blwyddyn y Teigr: Blwyddyn Newydd Tsieineaidd 2022

10 Ionawr 2022

An image of a tiger to illustrate the Year of the Tiger

Mae cynlluniau ar gyfer y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd gyda Sefydliad Confucius Caerdydd yn mynd rhagddynt yn dda. Eleni, rydym wedi cynllunio rhywbeth i bawb, o gwmnïau lleol i lyfrgelloedd cyhoeddus a rhai bach i fyfyrwyr prifysgol.

Ar 1 Chwefror 2022 byddwn yn dathlu Blwyddyn y Teigr. Dywedir mai nodweddion yr anifail penodol hwn yw twf, datblygiad, a gallu i greu a chynllunio. Felly, gyda'r rhinweddau hyn mewn golwg, byddwn yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau preifat a chyhoeddus i bawb gael blas arnynt, Mae'r rhain yn cynnwys gweithgareddau untro arbennig ar gyfer busnesau lleol, adloniant yn y dull Tsieineaidd mewn llyfrgelloedd lleol, dathliadau i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, ac adnoddau hwyliog ac addysgol i ysgolion. Mae'n mynd i fod yn arrrrbennig!

Digwyddiadau i’r gymuned mewn llyfrgelloedd cyhoeddus

Byddwn yn llyfrgell Treganna ddydd Sadwrn 5 Chwefror, ac rydym yn eich gwahodd yn gynnes i ymuno â ni ar gyfer rhai neu bob un o'r canlynol:

  • Sesiynau Blas ar Iaith
  • Caligraffi Tsieineaidd
  • Torri papur a Gwneud Llusernau
  • Gwisgoedd Traddodiadol
  • Perfformiad Taichi
  • Perfformiad Offerynnau Cerdd Traddodiadol
  • Blasu Te
  • Dawns y Llew

Ar hyn o bryd bydd hwn yn ddigwyddiad wyneb yn wyneb, ond nodwch y gallai hyn newid ar sail rheoliadau Llywodraeth Cymru.

Gweithgareddau ar-lein i blant ysgol

Bydd plant ysgolion cynradd ac uwchradd hefyd yn cael cyfle i fwynhau blwyddyn newydd y lleuad gyda'n tiwtoriaid, drwy sesiynau rhyngweithiol byw ar-lein a sesiynau wedi'u recordio. Bydd y gweithgareddau'n cynnwys celf a chrefft ymarferol, adrodd straeon traddodiadol, dysgu am y sidydd Tsieineaidd a darganfod beth allwch neu na allwch ei wneud adeg y Flwyddyn Newydd o ran arferion a thabŵs.

Mae'r sesiynau ar-lein hyn yn agored i bob ysgol ledled Cymru. Byddwn yn eu cynnal drwy'r dydd ar 1 Chwefror, a bydd ysgolion hefyd yn cael cyfle i ddefnyddio'r fideos yn ystod gweddill yr wythnos.

Bydd yr amserlen a'r ffurflen gofrestru yn cael eu rhoi ar dudalennau adnoddau Prifysgol Caerdydd cyn bohir. Os ydych yn athro ac yn dymuno dysgu mwy neu fynegi diddordeb nawr, fodd bynnag, anfonwch e-bost at Ein Swyddog Prosiect Ysgolion Tsieina ar ucelev@cardiff.ac.uk.

Ewch i’n tudalennau i gael rhagor o wybodaeth a sut i wneud cais.

Rhannu’r stori hon