Ewch i’r prif gynnwys

Gŵyl Blwyddyn Newydd Tsieineaidd Ar-lein i blant ysgol

19 Ionawr 2022

Chinese New Year 2022 - The Year of the Tiger

Bydd Blwyddyn y Teigr yn cyrraedd yn 2022, a hoffai’r tîm yn Sefydliad Confucius Caerdydd wahodd disgyblion i ymuno â’n dathliadau rhithwir.

Diwrnod y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd: 1 Chwefror 2022

Ar ddydd Mawrth 1 Chwefror, gall plant ysgol fwynhau blwyddyn newydd y lleuad gyda'n tiwtoriaid drwy sesiynau ar-lein rhyngweithiol byw ar-lein a sesiynau wedi'u recordio. Bydd y rhain yn cael eu dangos drwy gydol y dydd, a gall athrawon gofrestru ar gyfer y cyfan neu rai ohonynt. Yna byddwn yn e-bostio dolenni ar gyfer y sesiynau rydych wedi mynegi diddordeb ynddynt fel bod modd i chi eu ffrydio i'ch disgyblion ar y diwrnod.

Nodwch y bydd y plant yn cael cyfle i gyfathrebu â'r tiwtoriaid Tsieineaidd sy'n arwain y sesiynau byw gan ddefnyddio'r opsiwn Sgwrs. Bydd manylion am sut i wneud hyn yn cael eu hanfon drwy e-bost at yr athro dosbarth, ynghyd â'r dolenni, yn yr wythnos sy'n arwain at y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd.

Dim ond athrawon all gael mynediad i'r sesiynau ar 1 Chwefror i'w defnyddio yn y dosbarth gyda'u disgyblion, felly defnyddiwch gyfeiriad e-bost eich ysgol wrth gofrestru, os gwelwch yn dda. Os yw eich plentyn yn cael ei addysgu gartref, cysylltwch â'n Swyddog Prosiect Ysgolion Tsieina i drafod. Os ydych chi'n unigolyn sy'n dymuno cael mynediad i'r sesiynau hyn, darllenwch yr adran nesaf ar wythnos y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd.

Cofrestrwch ar gyfer sesiynau byw a sesiynau wedi'u recordio

Mae ein sesiynau Blwyddyn Newydd Tsieineaidd ar-lein yn agored i bob ysgol ledled Cymru. Byddwn yn eu cynnal drwy'r dydd ar 1 Chwefror, a bydd ysgolion hefyd yn cael cyfle i ddefnyddio'r fideos o 2 Chwefror ymlaen.

Mae'r amserlen ar gyfer 1 Chwefror fel a ganlyn:

SesiwnAmser cychwynAmser gorffenTeitlDisgrifiadAddas ar gyfer ysgolion Cynradd / UwchraddByw / wedi’i recordio ymlaen llaw
19:009:30Cyflwyniad i’r Flwyddyn Newydd TsieineaiddCyflwyniad i'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd gan gynnwys ei tharddiad, pam mae pobl yn dathlu a sut maen nhw'n gwneud hynny.Y ddwyByw
29:309:50Cinio’r Flwyddyn Newydd TsieineaiddDiwylliant bwyd a bwyd mewn gwahanol rannau o Tsieina, gan gynnwys ystyron penodol.UwchraddWedi’i recordio
310:0010:30Adrodd storiTarddiad 'Gwarcheidwaid Dwyfol ar Ddrysau' a chwpledi gwanwyn Tsieineaidd.CynraddByw
410:3010:50Cyflwyniad i ddiwylliant y Sidydd TsieineaiddY 12 anifail y Sidydd a’r priod-ddulliau cysylltiedig mewn Mandarineg a Saesneg.Y ddwyWedi’i recordio
511:0011:30Gweithdy Celf a Chrefft Tsieineaidd - CaligraffiCyflwyniad byr a gweithdy ymarferol ar galigraffeg Tsieineaidd.Y ddwyByw
611:3011:50Gweithgareddau’r Flwyddyn Newydd TsieineaiddCymharu gweithgareddau'r flwyddyn newydd mewn gwahanol rannau o'r wlad a'r lleoedd hynny lle mae pobl yn siarad Tsieinëeg.Y ddwyWedi’i recordio
712:0012:30Arferion a thabŵs y Flwyddyn Newydd TsieineaiddBeth i'w wneud a’r hyn i BEIDIO â'i wneud yn ystod y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd!Y ddwyByw
813:3013:50Cinio’r Flwyddyn Newydd TsieineaiddDiwylliant bwyd a bwyd mewn gwahanol rannau o Tsieina, gan gynnwys ystyron penodol.CynraddWedi’i recordio
914:0014:30Adrodd storiStori'r 'Duw Cyfoeth' yn Tsieina a chyfarchion cyffredin y flwyddyn newydd.Y ddwyByw
1014:3014:50Gweithdy Celf a Chrefft Tsieiniaidd - Torri papurCyflwyniad byr a gweithdy ymarferol ar y grefft Tsieineaidd o dorri papur.Y ddwyByw

Gall athrawon gofrestru ar gyfer y sesiynau hyn gan ddefnyddio'rffurflen hon.

Wythnos y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd: 2-4 Chwefror 2022

Caiff gweithgareddau 1 Chwefror eu lanlwytho i dudalennau adnoddau addysgol Prifysgol Caerdydd, a byddant ar gael i athrawon neu unigolion eu defnyddio o ddydd Mercher 2 Chwefror. Os hoffech gael gwybod pryd maent yn mynd yn fyw, cofrestrwch eich manylioncyswllt.

Nodwch y gallwch gofrestru ar gyfer yr opsiwn hwn os nad ydych yn athro neu'n athrawes, felly nid oes angen i chi ddefnyddio e-bost gwaith.

Mwy o adnoddau

Hefyd gallwch edrych ar ein hadnoddau Blwyddyn Newydd Tsieineaidd ar gyfer 2021, y gellir defnyddio llawer ohonynt eleni hefyd.

Chinese New Year week: 2-4 February 2022

The activities from 1 February will be uploaded to Cardiff University’s educational resource pages and available for teachers or individuals to use from Wednesday 2 February. If you would like to know when they are going live, please register your contact details.

Please note that you can sign up for this option if you are not a teacher, therefore you do not need to use a work email.

More resources

You can also check out our Chinese New Year resources for 2021, many of which can also be used this year.
Chinese New Year 2022 - The Year of the Tiger - 3 tigers

Rhannu’r stori hon