Ewch i’r prif gynnwys

Cenhedlaeth Newydd o Feddylwyr – darlithydd o Gaerdydd ar y rhestr fer

21 Rhagfyr 2021

Mae darlithydd Ieithoedd Modern wedi cyrraedd rhestr fer Cynllun Cenhedlaeth Newydd o Feddylwyr 2022 y BBC a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC).

Mae Jesús Sanjurjo, darlithydd Astudiaethau Sbaenaidd ac America Ladin ac awdur In the Blood of Our Brothers, yn un o blith 60 o academyddion ledled Prydain sydd wedi cyrraedd rownd hon y cynllun, sy’n rhoi cyfle i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa feithrin y sgiliau sydd eu hangen i gyfathrebu eu canfyddiadau ymchwil i bobl y tu allan i’r gymuned academaidd.

Os bydd yn llwyddiannus, bydd Jesús yn un o ddeg yn y rownd derfynol, a fydd yn cael cyfle unigryw i ddatblygu eu rhaglenni eu hunain ar gyfer Radio 3 y BBC a chyfle i ymddangos yn rheolaidd ar yr awyr. Bydd yr AHRC yn rhoi hyfforddiant y cyfryngau i’r rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol hefyd, ac mae’n cynnig posibilrwydd o weithio gyda theledu’r BBC.

Podlediad radio ar Filwyr Duon y Caribî yw syniad Jesús, a fydd yn ymchwilio i groestoriad bod yn Ddu, gwleidyddiaeth radical, caethwasiaeth a gwrthsafiad yn y Caribî drwy gyfweliadau, cerddoriaeth a straeon byrion.

Bydd Jesús yn cymryd rhan mewn gweithdai ym mis Ionawr 2022, a fydd yn rhoi cyfle i’r BBC a’r AHRC weld sut mae e ac academyddion eraill ar y rhestr fer yn meddwl ac yn gweithio ar syniadau. Bydd y grŵp hefyd yn clywed cyngor ar sut i gyfathrebu eu syniadau, a byddant yn cael cyfle i ddatblygu a chyflwyno eu cynigion i gynhyrchwyr profiadol, gan glywed gan alumni Cenhedlaeth Newydd o Feddylwyr hefyd.

“Mae fy nghais yn archwilio’r rôl ganolog y chwaraeodd pobl Dduon, dynion a menywod, milwyr a dinasyddion, y rhai wedi’u caethiwo a’r rhai rhydd, wrth siapio’r Caribî yn y blynyddoedd ar ôl Chwyldro Haiti. Bydd cyfuniad o straeon byrion, cyfweliadau a cherddoriaeth yn rhoi cyfle i’r gwrandawyr ymgolli yn hanes caethwasiaeth, gwrthsafiad, chwyldro a’i waddol yn un o ranbarthau mwyaf diddorol y byd: y Caribî.”

Lecturer in Hispanic and Latin American Studies

Ar ôl y gweithdai ym mis Ionawr, bydd hyd at ddeg ymgeisydd yn cael eu dewis gan banel o gynrychiolwyr y BBC a’r AHRC i symud ymlaen at ddatblygu eu traethawd i’w ddarlledu ar Radio 3.

Lansiwyd cynllun Cenhedlaeth Newydd o Feddylwyr ym mis Tachwedd 2010 yng ngŵyl Free Thinking Festival of Ideas Radio 3. Ers 2010, mae dros 100 o academyddion o bob rhan o Brydain wedi cyflwyno rhaglenni dogfen ar Radio 3, BBC World Service, a hefyd wedi cymryd rhan mewn rhaglenni trafod a chreu ffilmiau blasu ar gyfer BBC Arts Online.

Rhannu’r stori hon