Ewch i’r prif gynnwys

Manteision clystyrau diwydiant

15 Rhagfyr 2021

Man loading wine into a truck

Mae Prosiect Twf ar y Cyd Prifysgol Caerdydd wedi bod yn ystyried y manteision a gynigir gan Inno’vin, clwstwr o aelodau o'r diwydiant gwin yn Nouvelle-Aquitane, Ffrainc.

Bu’r prosiect, ar y cyd ag Ysgol Busnes KEDGE a Phrifysgol Portland State, yn edrych ar sut y caiff arloesi cydweithredol ei hwyluso gan Inno’vin. Y bwriad oedd deall sut y gall clystyrau sy'n ymwneud ag arloesi hwyluso a hybu cydweithio rhwng aelodau a sicrhau canlyniadau llwyddiannus.

Daw Inno'vin, un o brif glystyrau Ewrop yn y diwydiant gwin, â 170 o aelodau at ei gilydd gan gynnwys gwindai, tyfwyr grawnwin, cyflenwyr a sefydliadau eraill sy'n gysylltiedig â gwin.

Bu'r tîm academaidd yn cyfweld â nifer o aelodau'r clwstwr yn ystod ymweliadau â Bordeaux ac ar Zoom, yn ogystal ag astudio chwech o brosiectau Inno’vin. Roedd y prosiectau a astudiwyd yn ymwneud ag offer gwinllannoedd a chynhyrchu, a'r defnydd posibl o gynhyrchion cyflenwyr.

Roedd pwysigrwydd rôl Inno’vin fel canolbwynt yn y clwstwr yn amlwg ar unwaith, gyda manteision yn sgil y prosiectau yn cynnwys gwell enw da ac ansawdd i'r aelodau, a gwell dangosyddion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. Canfuwyd cynnydd hefyd o ran y cydweithio a’r synergedd rhwng yr aelodau.

Dywedodd yr Athro Maneesh Kumar, Cyd-ymchwilydd Prosiect Twf ar y Cyd: "Helpodd yr astudiaeth gyda chlwstwr Inno’vin y tîm i ddeall sut i greu ecosystem arloesi dan arweiniad canolbwynt a all fod o fudd i amrywiaeth o randdeiliaid sy'n ymwneud â hyrwyddo arloesi a thwf cynaliadwy yn y diwydiant gwin yn ardal Bordeaux.

"Mae Inno’vin yn enghraifft berffaith o sut i sbarduno cydweithio, cefnogi datblygu galluoedd yr aelodau a sicrhau canlyniadau llwyddiannus. Gellir cymhwyso'r model arloesi a chydweithio hwn i unrhyw glwstwr diwydiannol arall."

Cychwynnwyd yr astudiaeth gan Brosiect Twf ar y Cyd, sy'n astudio cydweithio o fewn y diwydiant diodydd yng Nghymru. Dywedodd Dr Vasco Sanchez Rodrigues, Arweinydd Prosiect Twf ar y Cyd: "Mae'r astudiaeth wedi rhoi cipolwg i ni ar sut mae clwstwr diwydiant o'r radd flaenaf yn mynd ati i ddatblygu a rhannu gwybodaeth rhwng cynhyrchwyr, darparwyr arloesi technoleg ac ymchwilwyr.

"Mae gennym ni'r potensial nawr i arddangos a defnyddio'r wybodaeth hon yn y sector diodydd yng Nghymru, gan sbarduno arloesi a chanlyniadau cadarnhaol i’r diwydiant ymhellach."

Roedd yr Athro Mellie Pullman o Brifysgol Portland State a Phrifysgol Groningen yn Athro Gwadd ym Mhrifysgol Caerdydd pan ddechreuodd yr astudiaeth a chroesawodd y cyfle i weithio ar yr astudiaeth. "Wrth gwrs, mae astudiaeth ar gydweithio yn y diwydiant gwin yn cyd-fynd yn naturiol â chenhadaeth Tyfu ar y Cyd. Fyddai'r astudiaeth ddim wedi bod yn bosibl heb Ysgol Busnes Kedge, sydd wedi’i lleoli yng nghanol Bordeaux gyda llawer o bartneriaid yn y diwydiant gwin."

Cytunodd Tatiana Bouzdine Chameeva o Ysgol Busnes Kedge fod cydweithio gyda Phrosiect Twf ar y Cyd yn ddelfrydol, "bydd y cydweithio hwn gyda Thwf ar y Cyd yn fuddiol iawn i Inno’vin a rhanbarth gwin Bordeaux, yn ogystal â chynhyrchu papurau academaidd o ansawdd uchel. Bydd creu'r bartneriaeth ryngwladol hon rhwng Ysgol Busnes KEDGE a Phrifysgol Caerdydd yn wych ar gyfer rhannu arfer gorau ac arbenigedd, yn ogystal ag ehangu ein cymuned academaidd".

Rhannu’r stori hon

Ni yw'r Ysgol Busnes Gwerth Cyhoeddus gyntaf yn y byd. Rydym yn poeni am fwy na llwyddiant economaidd, rydym am ymgorffori dynoliaeth, cynaliadwyedd, haelioni ac arloesedd yn y sector busnes.