Ewch i’r prif gynnwys

Jane Hutt AS yn ymweld â Phafiliwn Grange

15 Rhagfyr 2021

Jane Hutt MS visits the Grange Pavilion
Jane Hutt MS visits the Grange Pavilion

Aeth Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, i ymweld â Phafiliwn Grange ddydd Iau 9 Rhagfyr i fynd ar daith o amgylch y cyfleusterau a chlywed am y gwaith ailddatblygu cyn pandemig COVID-19.

Agorodd Canolfan Gymunedol Pafiliwn Grange yn gynharach eleni, a chafodd ei hadeiladu i roi gofod dan do ac awyr agored i drigolion i gefnogi’r prosiectau dan arweiniad y gymuned sydd wedi blodeuo yn Grangetown.

Ali Abdi, Cadeirydd Sefydliad Elusennol Corfforedig Pafiliwn Grange a Rheolwr Partneriaeth y Porth Cymunedol, oedd yn arwain y daith, a chyflwynodd y Gweinidog i Dr Mhairi McVicar (Arweinydd Prosiect y Porth Cymunedol), Corey Smith (Rheolwr Prosiect y Porth Cymunedol), Nirushan Sudarsan (Arweinydd y Fforwm Ieuenctid), Zara Ali (perchennog Hideout Café) ac Aliyah Jama (staff Pafiliwn Grange).

Roedd Jane yn hapus i glywed bod grant Cyfleusterau Cymunedol a ddyfarnwyd yn 2019 wedi cael ei ddefnyddio i dalu am y trawstiau dur yn y to wrth iddi gael ei thywys o amgylch y gwahanol fannau sydd ar gael i'w llogi yn yr adeilad. Roedd Nirushan yn falch o gwrdd â'r Gweinidog unwaith eto, ar ôl bod ar interniaeth gyda hi yn flaenorol, ac roedd gan y Gweinidog ddiddordeb mawr mewn clywed sut roedd ei astudiaethau'n mynd ac am ei gyfraniad at y gwaith o arwain gweithgareddau Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grange. Rhannodd Zara y wybodaeth ddiweddaraf am Hideout Café ac am ei hangerdd dros gydlyniant cymunedol, gan sôn am ei chynlluniau ar gyfer y dyfodol, sy'n cynnwys nosweithiau gemau a chaffi trwsio. Rhannodd Corey a Mhairi newyddion am y Porth Cymunedol a oedd yn cynnwys cais llwyddiannus am gyllid i recriwtio Ceidwad Parc Gerddi Grange a chynllunio pellach i ddod â mwy o weithgareddau'r Brifysgol i Bafiliwn Grange yn 2022.

Dywedodd Dr Mhairi McVicar, Arweinydd Academaidd Prosiect y Porth Cymunedol:

"Pleser mawr oedd croesawu’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, i Bafiliwn Grange a chael y cyfle i ddangos gwir effaith y Grant Cyfleusterau Cymunedol. Gyda chymorth y grant cyfalaf hwn, bu modd i Sefydliad Corfforedig Elusennol Pafiliwn Grange gyflawni ei uchelgais o greu cyfleuster o safon sydd wedi’i arwain gan y gymuned, ac yn ystod yr ymweliad roedd y lleoliad yn llawn bwrlwm, gyda Hideout Café, Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grange, staff lleol, cyfleoedd dysgu i oedolion, a gweithgareddau teuluol. Chwaraeodd y cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru ran mor enfawr i wneud hyn i gyd yn bosibl."

Ar ddiwedd yr ymweliad, aeth Jane a'i chydweithwyr i fwynhau diod boeth gyda chacennau blasus o Hideout Café.

I gael gwybod mwy am Bafiliwn Grange a sut mae'r cyfleuster yn cael ei ddefnyddio ewch i wefan Pafiliwn Grange.

Rhannu’r stori hon