Ewch i’r prif gynnwys

Cam mawr ymlaen yn y mecanwaith a allai arwain at glotiau gwaed prin iawn ym mrechlyn Rhydychen-AstraZeneca

15 Rhagfyr 2021

Tatiana Shepeleva/Shutterstock
Tatiana Shepeleva/Shutterstock

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd a'r Unol Daleithiau wedi cyhoeddi papur sy'n rhoi gwybod am "sbardun" posibl sydd wrth wraidd y cysylltiad rhwng brechlyn Covid Rhydychen-AstraZeneca a chlotiau gwaed prin iawn, yng nghyfnodolyn Science Advances.

Mae Dr Meike Heurich , prif ymchwilydd yn yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol, yn ymchwilio i’r ffordd y mae'r system imiwnedd a chlotio yn gysylltiedig y naill â’r llall ar y lefel foleciwlaidd. Cyfrannodd at y papur hwn drwy bennu'r ffordd y mae’r fector feirysol ChAdOx yn rhyngweithio â CAR, y derbynnydd wrth i feirws fynd i mewn i gell.

"Mae'n hanfodol deall y mecanweithiau hyn wrth i feirws fynd i mewn i gell ac mae gennym y dulliau bioffisegol i wybod y ffordd y mae proteinau’r fectorau feirysol hyn yn rhyngweithio’n rhwymol â derbynyddion cellog", meddai Dr Heurich,

Mae'n ychwanegu, "Mae adnabod y ffordd y mae fector y adenofeirws a'r blaten PF4 yn rhyngweithio â’i gilydd yn fecanwaith posibl i esbonio sut y gall y clotiau gwaed prin iawn hyn ddigwydd." "Fodd bynnag, mae'n bwysig tynnu sylw at y ffaith bod yn rhaid i nifer o gamau fod ar waith er mwyn i hyn ddigwydd a fyddai’n arwain at ymateb imiwnedd anghywir yn erbyn y protein hwn - dyna pam mae'r clotiau gwaed hyn yn hynod o brin."

Ychwanegodd yr Athro Alan Parker , prif awdur o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, "rydym yn gobeithio y gallai ein canfyddiadau fod yn ddefnyddiol wrth ystyried y ffordd y mae platfformau brechlynnau yn cael eu dylunio yn y dyfodol".

Mae'r risg o glotiau gwaed sy’n deillio o'r brechlyn AZ yn hynod o fach, gan achosi 73 o farwolaethau o blith 50 miliwn dos a roddwyd yn y DU, a chredir bod y brechlyn wedi achub miliwn o fywydau ac wedi atal 50 miliwn o achosion o COVID.

Rhannu’r stori hon