Ewch i’r prif gynnwys

Mwy na mymïau: ymchwil enfawr yn datgelu bywyd yn yr Oes Efydd ar gyrion allanol Prydain

13 Rhagfyr 2021

Llyfr newydd gan y tîm y tu ôl i ymchwil Cladh Hallan yn dilyniannu ffordd o fyw yn y tai crwn yn Ne Uist cynhanesyddol

Mae bywyd bob dydd rhyfeddol pobl gyffredin dros bedwar mileniwm yn ôl yn ymddangos mewn llyfr newydd sy'n dilyniannu bywyd mewn safle unigryw sydd wedi’i gadw’n dda o dan dywod marchair De Uist.  Mae'r gyfrol gyntaf yn cyflwyno'r anheddiad a gweithgaredd angladdol o'r safle anarferol ar Ynysoedd Gorllewinol yr Alban lle bu pobl yn byw am amser hir.

Mae dilyniant stratigraffig rhyfeddol Cladh Hallan yn fwyaf enwog am ei fymïau a ganfuwyd dan ei dai crwn, ac mae'n datgelu dilyniant unigryw dros 1500 mlynedd o fywyd o gyfnod y Bicer (yr Oes Efydd Gynnar c. 2000 CC) i'r Oes Haearn Gynnar (c. 500 BC) ym Mhrydain.

Ymhlith y trysorau a ddatgelwyd dros naw mlynedd o gloddio ceir deuddeg tŷ crwn, chwe chladdedigaeth daear, naw claddedigaeth amlosgi, gemwaith aur a darnau o fowld castio efydd, gyda niferoedd syfrdanol o 150,000 o esgyrn anifeiliaid, 75,000 o deilchion crochenwaith a 2,7000 o ddarganfyddiadau bach wedi'u hadennill gan oddeutu 200 o weithwyr ar y safle. Er bod y dystiolaeth gyntaf o fymïo yn yr Oes Efydd ym Mhrydain wedi cydio yn y dychymyg ar unwaith, mae'r dilyniant o feddiannaeth hir mewn rhes o dri thŷ crwn â lloriau wedi suddo (10fed ganrif CC) a ddatgelwyd ers hynny yn cyflwyno darlun newydd o fywyd yn yr Oes Efydd.

Mae'r Athro Bioarchaeoleg Jacqui Mulville, cyd-gyfarwyddwr sydd wedi bod yn gweithio yn Cladh Hallan ers 1996, yn egluro mwy:

'Mae un o ganlyniadau pwysicaf y cloddio wedi dod o samplu amgylcheddol a micro-falurion dwys o loriau tai ac ardaloedd awyr agored er mwyn adfer patrymau taflu, a dehongli'r defnydd o 15 gofod domestig mewnol o'r Oes Efydd Hwyr hyd at yr Oes Haearn Gynnar.

'O loriau'r tai crwn rydym ni'n cael cipolwg agos ar sut y byddai bywyd bob dydd yn cael ei drefnu yn y tŷ - ble'r oedd pobl yn coginio, yn bwyta, yn gweithio ac yn cysgu. Anaml y bydd tystiolaeth o'r fath o dai cynhanesyddol ym Mhrydain neu Ewrop yn goroesi, ac mae'r canlyniadau yn gyfraniad pwysig i drafodaethau sydd wedi bod ar waith ers tro ynghylch trefniadaeth fewnol  gweithgareddau tai crwn', ychwanega.

A bellach, gall ymwelwyr â'r ynys nawr weld sut mae'r anheddiad gwreiddiol 3,000 o flynyddoedd oed yn gorwedd yn y tirlun heddiw diolch i ap realiti estynedig newydd,  Uist Unearthed (Ulaidhean Uibhist), a lansiwyd yr haf hwn gan archeolegwyr o Goleg Castell Lews UHI.

Esblygodd tîm y prosiect - Mike Parker Pearson, Jacqui Mulville, Helen Smith, a Peter Marshall, oll ym Mhrifysgol Sheffield ar y pryd - i gynnwys arbenigedd archeolegwyr ar draws y DU, gan gynnwys Caerdydd, Bournemouth, Southampton, Rhydychen a Choleg King Alfred, Caer-wynt. Yn ystod oes y prosiect, mae cannoedd o fyfyrwyr archaeoleg o Gaerdydd a thu hwnt wedi cronni profiad gwerthfawr ar y safle ac yn eu sefydliadau.

Dechreuodd y cam diweddaraf o'r ymchwil ar Ynysoedd Heledd yn 1988, ond mae cysylltiadau archeolegol Caerdydd yn mynd yn ôl i'r 50au gyda chloddiadau Gogledd Uist yr Athro Richard Atkinson.

Cyhoeddir Cladh Hallan: roundhouses and the dead in the Hebridean Bronze Age and Iron Age – Part 1: stratigraphy, spatial organisation and chronology gan Oxbow Books ac fe'i cynhwysir yn Current Archaeology.

Rhannu’r stori hon