Ewch i’r prif gynnwys

Ysgolhaig amgylcheddol o Gaerdydd yn cefnogi gwaharddiad byd-eang ar ffracio

10 Rhagfyr 2021

Mae canlyniadau tribiwnlys rhyngwladol, a gychwynnwyd gan academydd y Gyfraith yng Nghaerdydd, wedi arwain at alwad ar i'r CU gefnogi gwaharddiad byd-eang ar ffracio.

Yr Athro yn y Gyfraith, Anna Grear oedd cyd-sylfaenydd Sesiwn Arbennig gyntaf y byd ar Hawliau Dynol, Ffracio a Newid yn yr Hinsawdd yn y llys hawliau dynol rhyngwladol uchel ei barch, Tribiwnlys Parhaol y Bobl (PPT) yn 2018.

Ffracio yw'r dechnoleg drilio a ddefnyddir i echdynnu ynni ymhell o dan y ddaear a gwrandawiad tribiwnlys PPT yn 2018 oedd y cyntaf yn ei hanes i asesu ffracio o safbwynt hawliau dynol ac edrych ar newid yn yr hinsawdd drwy lens hawliau dynol. Honnai ymchwil yr Athro Gear a'r dystiolaeth a gasglwyd gan y tîm fod ffracio’n groes i Ddatganiad Cyffredinol ar Hawliau Dynol 1948.

Mewn dyfarniad hynod arwyddocaol, cytunodd y tribiwnlys a chanfu fod ffracio a newid yn yr hinsawdd yn torri hawliau dynol drwy effeithio ar yr hawl i iechyd, yr hawl i ddŵr glân, hawliau pobl frodorol a'r hawl i wybodaeth a chyfranogiad.

Watch a video which explores how fracking and climate change violate human rights

Bellach, ar sail canfyddiadau'r tribiwnlys, mae clymblaid ryngwladol wedi'i ffurfio i alw ar y CU i gefnogi gwaharddiad byd-eang ar ffracio. Mae dros 760 o sefydliadau amgylcheddol rhyngwladol, grwpiau llawr gwlad, cymunedau yr effeithir arnynt, arweinwyr meddwl gan gynnwys Bill McKibben ac enwogion yn cynnwys Mark Ruffalo a Jane Fonda, yn cefnogi'r glymblaid, gyda phob un yn cydnabod bod ffracio yn niweidiol ac yn anghydnaws â sefydlogrwydd hinsawdd, iechyd y cyhoedd a hawliau natur. O ganlyniad i'w rôl yn dechrau gwrandawiad y PPT, mae'r Athro Grear wedi cael gwahoddiad i gefnogi'r fenter ryngwladol ynghyd â'r Athro Tom Kerns, cyfarwyddwr yr Ymgynghoriaeth Amgylchedd a Hawliau Dynol yn Oregon UDA, a gyd-ddechreuodd y PPT gyda hi.

Cyfeiriwyd at yr Athro Grear, sy'n addysgu ar raglenni Hawliau Dynol a Chyfiawnder Byd-eang yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn ddiweddar mewn erthyglau ar gyfer cylchgrawn Orion, a gyhoeddwyd yn ystod COP26, yn trafod canfyddiadau'r tribiwnlys a beth allai ddigwydd nesaf.

Wrth sôn am y momentwm cynyddol, dywedodd yr Athro Grear, "Mae'n gyffrous gweld sut mae Barn Ymgynghorol y PPT wedi'i mabwysiadu gan gynifer o gymunedau sy'n dioddef yr effeithiau, a gan grwpiau amgylcheddol ac ymgyrchwyr yn fyd-eang. Rwy'n rhyfeddu at y ffordd mae'r bobl y tu ôl i'r fenter wedi symud hyn ymlaen, ac yn hapus iawn i gefnogi mewn unrhyw ffordd y gallaf i. Rwy'n cefnogi llythyr penderfyniad drafft y Cenhedloedd Unedig, sy'n cael ei baratoi ar hyn o bryd gan Andy Gheorghiu, yr ymgyrchydd amgylcheddol. Rwy’n annog unrhyw un arall sy'n awyddus i gefnogi'r achos hwn i gysylltu ag ef. Mae'r hyn a ddechreuodd mewn tafarn yng Nghaerdydd dros baned o goffi bellach yn cynnau tân dros gyfiawnder ar draws y byd."

Rhannu’r stori hon