Ewch i’r prif gynnwys

Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy yn gadael etifeddiaeth barhaol

10 Rhagfyr 2021

An image of a hilside

Heddiw, ddydd Gwener 10 Rhagfyr, mae Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy Prifysgol Caerdydd wedi lansio ei adroddiad etifeddiaeth, gan fanylu ar ei effaith a'i gyflawniadau ers ei sefydlu yn 2010.

Mae adroddiad cloi'r Sefydliad, Ein Hetifeddiaeth, yn tynnu sylw at y gwaith a gynhaliwyd drwy'r Sefydliad, a ddaeth ag ystod eang o ddisgyblaethau academaidd ynghyd – Daearyddiaeth, Bioleg ac Ecoleg, Economeg a Marchnata, Gwyddor Gwleidyddol, Cymdeithaseg, Seicoleg, Gwyddorau'r Ddaear ac Athroniaeth.

Yn ei 11 mlynedd o weithredu, mae'r Sefydliad wedi bod ar flaen y gad o ran ymchwil ryngwladol ym maes datblygu cynaliadwy, gan gynnig atebion i broblemau cynaliadwyedd a'r amgylchedd.

Arloesodd y Sefydliad safbwynt unigryw sy'n seiliedig ar fannau, gan ei ddefnyddio fel sail ar gyfer ymchwil rhyngddisgyblaethol rhwng partneriaid a'r gymuned ehangach. Mae'r dull hwn wedi sicrhau atebion parhaol i'r cwestiwn sut i sicrhau lleoedd a chymunedau mwy cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

Mae'r Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy yn gadael etifeddiaeth o fentrau ymarferol, prosiectau ymchwil, ymyriadau polisi a phartneriaethau a fydd yn parhau y tu hwnt i oes y Sefydliad.

Mae adroddiad cau'r Sefydliad, Ein Gwaddol, ar gael i'w lawrlwytho. Gellir dod o hyd i ymchwilwyr sy'n gysylltiedig â'r Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy o dan Pobl.

Rhannu’r stori hon