Ewch i’r prif gynnwys

Nadila Hussein yn ymuno â thîm y Porth Cymunedol fel Llysgennad Myfyrwyr

7 Rhagfyr 2021

Nadila Hussein
Nadila Hussein

Mae Nadila Hussein wedi ymuno â thîm y Porth Cymunedol yn ddiweddar, gan gymryd yr awenau o Nirushan Sudarsan fel Llysgennad Myfyrwyr ar gyfer y prosiect. Cawsom sgwrs gyda Nadila i ddarganfod ychydig mwy amdani a'r hyn y mae hi'n edrych ymlaen ato fwyaf yn ei rôl newydd.

Helo bawb, Nadila Hussein ydw i ac rwy'n fyfyriwr cysylltiadau rhyngwladol a gwleidyddiaeth yn y drydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd. Rwy'n chwaraewr pêl-rwyd brwd ac yn Llywydd Cymdeithas Somali Prifysgolion Caerdydd. Rwyf wedi fy magu yng Nghaerdydd ac rwy'n angerddol am addysg ac ymgysylltiad gwleidyddol ieuenctid.

Clywais gyntaf am CG nôl yn 2020 drwy fy mam sy'n gweithio yn yr ardal leol. Arweiniodd hyn at gymryd rhan mewn diwrnod agored a drefnwyd gan y Porth Cymunedol ac yn dilyn hynny mynychais rai digwyddiadau yn Mhafiliwn Grange ac erbyn hyn mae gennyf rôl llysgennad myfyrwyr ar gyfer y prosiect.

Rwy'n credu fy mod yn edrych ymlaen yn fawr at allu cymryd rhan lawn yng nghymuned Grangetown a dod i allu ehangu fy ngwaith a'm rhwydwaith ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at wneud rhywfaint o waith gyda'r Fforwm Ieuenctid yn ogystal â gallu gwneud rhywbeth ynghylch ymgysylltiad gwleidyddol ieuenctid yn yr etholiadau lleol sydd ar y gweill ym mis Mai.

Gall pobl gysylltu â ni drwy fy ebost myfyriwr nahussein@caerdydd.ac.uk - byddwn wrth fy modd yn clywed gan unrhyw un a hoffai fod yn rhan o'r Porth Cymunedol neu sydd ag unrhyw gwestiynau am ein prosiectau neu fi fy hun.

Rhannu’r stori hon