Ewch i’r prif gynnwys

School of Pharmacy publishes findings that could help climate change

25 Tachwedd 2021

Mae ymchwil a gynhaliwyd yn yr ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol wedi darganfod y gellir lleihau faint o fethan y mae gwartheg yn ei greu drwy newid eu deiet, canfyddiad a allai arwain at oblygiadau pellgyrhaeddol yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

Mae methan yn cyfrannu at tua 16% o gyfanswm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr ac o gofio ei fod 25 gwaith yn fwy grymus na charbon deuocsid, mae’n broblem go iawn wrth i'n hinsawdd gynhesu. Mae 40% o'r holl allyriadau methan yn cael ei achosi gan amaethyddiaeth ac felly byddai dod o hyd i ffyrdd o leihau'r allbwn hwnnw yn arf pwysig wrth sefydlogi ein hatmosffer.

Astudiodd Dr James Blaxland, sydd bellach yn ymchwilydd a darlithydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, a'r Athro Les Baillie o'r Ysgol Fferylliaeth echdynion hopys a'r ffordd maen nhw’n effeithio ar y brif organeb sy'n creu methan sef Methanobrevibacter ruminantium, sy'n byw y tu mewn i wartheg. Yn eu arbrofion, canfuwyd bod priodweddau gwrthficrobaidd hopys yn gallu lladd yr organeb ac wrth wneud hynny lleihau faint o fethan sy'n cael ei gynhyrchu yn stumog gyntaf y fuwch, y rwmen. Er bod eu profion wedi cael eu cynnal mewn labordy, y gobaith yw y gellid ehangu'r ymchwil i dreialon mewn gwartheg, a fyddai yn ei dro o fudd i'r anifail gan fod M. ruminantium yn defnyddio cymaint â 12% o'r ynni bwyd y mae'r gwartheg yn ei gael.

Mae adeg cyhoeddi eu papur yn amserol yn dilyn uwchgynhadledd hinsawdd COP26 lle ceisiodd llywodraethau'r byd gyfyngu ar gynhesu byd-eang i 1.5°c.. Dywedodd Dr. Blaxland, “Astudiaeth arall yw hon sy'n pwysleisio pa mor bwysig yw astudio cynnyrch naturiol yn sgîl eu priodoleddau bioactif.”

Rhannu’r stori hon