Ewch i’r prif gynnwys

Yr Athro Hywel Thomas yn cael ei ethol yn Aelod Tramor gan Academi Gwyddorau Tsieina

29 Tachwedd 2021

Hywel Thomas

Mae'r Athro Hywel Thomas o Ysgol Peirianneg Caerdydd wedi cael ei ethol yn Aelod Tramor o Academi Gwyddorau Tsieina, anrhydedd uchaf Tsieina i wyddonwyr tramor.

Mae'r Ysgol Peirianneg yn llongyfarch yr Athro Hywel Thomas, CBE, FREng, FRS, FLSW ar ei ethol yn Aelod Tramor o Academi Gwyddorau Tsieina (AGT).

Dyma'r anrhydedd uchaf i'w rhoi gan lywodraeth Tsieina i wyddonydd tramor am gyfraniadau a chyflawniadau mewn gwyddoniaeth a thechnoleg ac mae'n gyflawniad personol eithriadol i'r Athro Thomas.

AGT yw academi genedlaethol gwyddorau naturiol Gweriniaeth Pobl Tsieina ac mae'n darparu gwasanaethau cynghori ac arfarnu ar faterion sy'n deillio o'r economi genedlaethol, datblygiad cymdeithasol a gwyddoniaeth a thechnoleg.

Etholwyd cyfanswm o 25 aelod tramor o bob cwr o'r byd i AGT yn 2021 gyda'r Athro Thomas yr unig un a etholwyd o beirianneg sifil.

Mae'r Athro Hywel Thomas yn Athro Ymchwil Nodedig mewn Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Caerdydd, yn sylfaenydd ac yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Geoamgylcheddol, ac yn Athro UNESCO wrth Ddatblygu Geoamgylchedd Cynaliadwy. Mae hefyd yn Athro Ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe yn rhan-amser.

Mae ei ddiddordebau ymchwil ym maes "Prosesau Cysylltiedig" sy'n ymchwilio i gladdu gwastraff niwclear ac ymddygiad cymhleth dŵr, nwy, gwres a chemegau o dan y ddaear. Mae ei waith wedi ymdrin ag ystod eang o faterion geoamgylcheddol, o broblemau llif amlffiseg a geocemeg cysylltiedig mewn priddoedd a chreigiau, i waredu gwastraff, gan gynnwys gwastraff niwclear. Mae ei ddiddordebau presennol yn cynnwys maes geoynni, gyda phrosiectau mawr ynglŷn â gwres o'r ddaear, nwyeiddio glo tanddaearol, defnyddio nwy anghonfensiynol a carbon sydd wedi ymneilltuo mewn gwythiennau glo.

Mae hefyd wedi gweithio'n helaeth gydag asiantaethau'r Cenhedloedd Unedig, gan gynnwys y Sefydliad Datblygu Diwydiannol, UNESCO ac Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol.

Mae cyflawniadau academaidd yr Athro Thomas wedi cael eu cydnabod drwy gael eu hethol yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol yn 2012, yn Gymrawd yr Academi Beirianneg Frenhinol yn 2003, yn Aelod o Academia Europaea, Academi Ewrop yn 2012 ac yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2011. Fe'i gwnaed yn Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgol Zhejiang, Tsieina. Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru:

Yn 2013, dyfarnwyd Gwobr Pen-blwydd y Frenhines i'r Ganolfan Ymchwil Geoamgylcheddol am Addysg Uwch ac Addysg Bellach i gydnabod atebion geoamgylcheddol i heriau mawr o ran tir, ansawdd dŵr daear ac adfywio.

Y tu hwnt i'w ymchwil, mae'r Athro Thomas wedi ennill bri fel arweinydd rhyngwladol drwy ei wasanaeth fel Cyfarwyddwr yr Ysgol Peirianneg ym Mhrifysgol Caerdydd am 8 mlynedd rhwng 2002 a 2010. Wedi hynny, bu'n Ddirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol am gyfnod pellach o 8 mlynedd rhwng 2010 a 2018. Yn 2017 derbyniodd CBE yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd am ei 'Wasanaethau i Ymchwil Academaidd ac Addysg Uwch'.

Mae bellach yn Brif Olygydd Computers and Geotechnics, cylchgrawn blaenllaw C1 Elsevier mewn geomecaneg gyfrifiadurol.

Mae etholiad i AGT yn cydnabod Hywel Thomas am ei arweinyddiaeth fyd-eang ym maes peirianneg geoamgylcheddol. Llongyfarchiadau iddo ar yr anrhydedd mawr hwn.

Rhannu’r stori hon