Ewch i’r prif gynnwys

Dadl yn y Senedd yn tynnu sylw at bartneriaeth canolfan ymchwil â phobl ifanc

1 Rhagfyr 2021

Diverse group of young people stand in a circle

Mewn dadl ddiweddar yn y Senedd cafwyd canmoliaeth i’r bartneriaeth barhaus rhwng Canolfan Wolfson a phobl ifanc ym maes ymchwil iechyd meddwl ieuenctid.

Yn y ddadl fer, a gyflwynwyd gan lefarydd Plaid Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Rhun Ap Iorwerth AS, trafodwyd yr angen i sicrhau bod gan bobl ifanc fynediad at wasanaethau cymorth iechyd meddwl yng Nghymru.

Ymatebodd Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Llywodraeth Cymru, Lynne Neagle, i'r ddadl a thynnodd sylw at ba mor bwysig yw gwrando ar bobl ifanc sydd wedi cael profiadau iechyd meddwl yn eu bywydau.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog: "Mae gwrando ar bobl ifanc sydd wedi wynebu phrofiadau iechyd meddwl yn hanfodol, ac mae gennym fecanweithiau cadarn ar waith i gefnogi hyn. Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Wolfson ym Mhrifysgol Caerdydd.

"Mae hwn yn dîm amlddisgyblaethol sydd â’r nod o ddeall y ffactorau sy’n achosi problemau iechyd meddwl ymhlith y glasoed a llywio ffyrdd newydd o gefnogi ein pobl ifanc.

"Rwy'n falch iawn bod y ganolfan wedi recriwtio pobl ifanc sydd wedi byw drwy brofiadau iechyd meddwl i ymuno â'i grwpiau cynghori newydd, ac rwy'n gweld hyn fel cyfle enfawr i sicrhau bod cymorth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yn cael ei lywio gan ymchwil sy’n arwain y byd."
Lynne Neagle AS, Dirprwy Weinidog Iechyd a Llesiant

Wrth ymateb, dywedodd un o aelodau Grŵp Cynghori Ieuenctid Canolfan Wolfson: "Mae'n deimlad anhygoel gwybod nad yw'r gwaith arloesol sy’n cael ei wneud gan Ganolfan Wolfson yn cael ei ddiystyru gan Aelodau o'r Senedd.

"Mae'r bobl yng Nghanolfan Wolfson yn gweithio'n galed i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc nid yn unig yn cael eu clywed ond yn cael eu parchu digon i lywio ymchwil a pholisïau. Felly mae cael cydnabyddiaeth o hynny yn y Senedd yn gam enfawr tuag at gyflwyno dulliau sy’n wirioneddol ystyrlon ac a fydd yn y pen draw yn diogelu iechyd meddwl cenedlaethau'r dyfodol."

Youth Advisory Group member quote re Senedd mention

Ychwanegodd un o Gynghorwyr Ieuenctid eraill Canolfan Wolfson: "Mae bod yn rhan o'r Grŵp Cynghori Ieuenctid a chlywed ein grwpiau cynghori ieuenctid yn cael eu trafod yn gwneud i mi deimlo bod lleisiau pobl ifanc, am y tro cyntaf, yn cael eu clywed ac yn cael eu cymryd o ddifrif. Rwy'n teimlo fy mod i'n gwneud gwahaniaeth yn barod, a dim ond tri chyfarfod rydyn ni wedi'u cael!"

I gloi, dywedodd Emma Meilak, hwylusydd Grwpiau Cynghori Ieuenctid Canolfan Wolfson: "Rydym yn falch iawn o weld ein gwaith cydweithredol gyda phobl ifanc yn cael sylw gan Lywodraeth Cymru yn Siambr y Senedd y mis hwn.

"Mae gwaith ein grwpiau cynghori ieuenctid newydd yn cynnig syniadau ac arweiniad hynod werthfawr i ni ar gyfer yr ymchwil rydym yn ei gwneud i wella bywydau pobl ifanc sy'n wynebu heriau iechyd meddwl.

"Rydym yn edrych ymlaen at barhau i gryfhau'r berthynas gydweithredol hon gyda phobl ifanc a llunwyr polisïau i sicrhau bod lleisiau'r rhai sydd â phrofiadau bywyd yn cael eu clywed ar bob cam o'n gwaith, er mwyn i’n hymchwil ddylanwadu’n effeithiol

Dysgwch fwy am Grwpiau Cynghori Ieuenctid Canolfan Wolfson.

Rhannu’r stori hon

Darganfyddwch fwy o gynnwys a phostiadau blog gwreiddiol, wedi'u cyd-gynhyrchu mewn partneriaeth ag aelodau o Grwpiau Cynghori Ieuenctid y Ganolfan.