Youth Advisory Group
Mae gennym gyfleoedd cyffrous i bobl ifanc gymryd rhan yn ein hymchwil.
Mae Canolfan Wolfson yn dymuno gosod profiadau a lleisiau pobl ifanc wrth galon ein gwaith.
Rydym ni'n awyddus i recriwtio pobl ifanc 14-25 oed â phrofiad o fyw gydag iechyd meddwl i ymuno â'n Grŵp Cynghori Ieuenctid newydd.
Bydd aelodau'n cael cyfle i fod yn rhan weithredol o fenter ymchwil newydd o bwys ym maes iechyd meddwl pobl ifanc.
Sut i'n helpu ni
Trwy ymuno â Grŵp Cynghori Ieuenctid Canolfan Wolfson, byddwch yn:
- Helpu i ffurfio gwaith y Ganolfan trwy gynghori ar y cwestiynau ymchwil sy'n bwysig i bobl ifanc.
- Ein cynghori ni ar sut rydyn ni'n cynnal ein hymchwil.
- Ein cynorthwyo ni i ddeall beth mae'r canfyddiadau ymchwil yn ei olygu i bobl ifanc.
- Awgrymu sut y gellid defnyddio'r canfyddiadau i wella'r hyn sy'n digwydd mewn bywyd go iawn i bob ifanc sy'n byw gyda phrofiadau iechyd meddwl.
Beth sy'n gysylltiedig?
Rydym yn cynnal cyfres o gyfarfodydd ar-lein rheolaidd, unwaith y mis, lle gwahoddir grŵp bach o bobl ifanc i rannu barn ar flaenoriaethau ac i'n cynghori ar ymchwil am iechyd meddwl pobl ifanc.
Pam ymuno â ni?
Yn gyfnewid am fod yn rhan o'n grŵp cynghori, byddwch yn:
Cael clywed eich llais
- Gall eich barn effeithio'n uniongyrchol ar bolisi iechyd meddwl yma yng Nghymru. Bydd eich barn yn cael ei bwydo'n ôl i bartneriaid yn ein Bwrdd Gweithredu ac Ymgysylltu sy'n cynnwys cynghorwyr i Lywodraeth Cymru, llunwyr polisïau ac elusennau sy'n cefnogi iechyd meddwl pobl ifanc, yn ogystal â phobl sy'n gweithio i bobl ifanc fel meddygon a seicolegwyr a gyda nhw.
Dysgu sgiliau newydd
- Derbyn hyfforddiant mewn dulliau ymchwil wrth i chi ein cynghori ar ein gwaith, drwy dasgau fel archwilio ceisiadau am grantiau neu gyfrannu at sesiynau gyda'n hymchwilwyr gwyddonol.
Rhoi hwb i'ch CV
- Gallwn ddarparu cyfleoedd i ddatblygu sgiliau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi, gan gynnwys ysgrifennu CV, cadeirio cyfarfod, a chynhyrchu cynnwys digidol ar gyfer ein llwyfannau gwe a chyfryngau cymdeithasol.
Rydym yn deall bod eich amser yn werthfawr. Bydd aelodau'r grŵp yn derbyn taleb o £20 am gymryd rhan ym mhob sesiwn.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y grŵp cynghori neu os oes gennych unrhyw bryderon yr hoffech eu trafod gyda ni, gallwch siarad ag aelod o'r tîm ymchwil.

Yr Athro Frances Rice
Senior Lecturer, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences
- ricef2@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2068 8384

Emma Meilak
Public Involvement Officer / Administrative Officer, Wolfson Centre for Young People's Mental Health
- meilake@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2068 8479
Darganfyddwch fwy o gynnwys a phostiadau blog gwreiddiol, wedi'u cyd-gynhyrchu mewn partneriaeth ag aelodau o Grwpiau Cynghori Ieuenctid y Ganolfan.