Ewch i’r prif gynnwys

Medal Copernicus am waith ar COVID-19

19 Tachwedd 2021

Wojtek Paczos receiving Copernicus Award

Dyfarnwyd Medal Copernicus i Dr Wojtek Paczos gan Academi Gwyddorau Gwlad Pwyl am waith ymchwil a chynghori ar COVID-19.

Y wobr uchaf a roddir gan yr Academi, caiff y fedal ei dyfarnu i wyddonwyr sy'n cyfrannu at y gymuned wyddonol yng Ngwlad Pwyl am gyflawniadau gwyddonol eithriadol.

Ers ei sefydlu ym 1969, dim ond i 300 o ysgolheigion y dyfarnwyd y Fedal.

Dyfarnwyd Medal Copernicus i Dr Paczos am waith fel rhan o Dîm Cynghori rhyngddisgyblaethol COVID-19.

Mae'r Tîm wedi bod yn monitro'r sefyllfa epidemig yng Ngwlad Pwyl, ac ym mis Medi 2020 cyhoeddodd adroddiad cynhwysfawr "Deall COVID-19", ynghyd â chyhoeddi 21 o ddatganiadau sefyllfa yn ddiweddarach am wahanol agweddau ar y pandemig parhaus, a gwneud argymhellion ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a chymdeithas Gwlad Pwyl.

Yn 2021, ymgorfforwyd un o'r datganiadau hyn, am y gwersi a ddysgwyd o'r pandemig, yn adroddiad y Cenhedloedd Unedig am Wyddoniaeth, Technoleg ac Arloesi ar gyfer y Nodau Datblygu Cynaliadwy.

Mae wedi bod yn anrhydedd mawr, wedi dwyn boddhad mawr ac wedi bod yn ysgogiad mawr i'r dyfodol. Mae gweithio yn y tîm rhyngddisgyblaethol yn ehangu eich gorwelion. Rwyf wedi dysgu llawer: am y feirysau, y brechiadau, epidemioleg, gofal iechyd, daearyddiaeth, cymdeithaseg, seicoleg. Rwy’n hapus iawn fy mod, fel yr unig economegydd, wedi cael digon o gyfleoedd i gyfrannu at weithfeydd y Tîm.

Dr Wojtek Paczos Lecturer in Economics

“Yn ystod ein cyfarfodydd wythnosol, rydym yn trafod y sefyllfa bresennol yng Ngwlad Pwyl ac yn fyd-eang, y datblygiadau gwyddonol diweddaraf, a faint nad ydym ni, y gwyddonwyr, yn ei wybod eto, sydd weithiau’n peri rhwystredigaeth.

"I mi, y peth pwysicaf yw ein bod wedi dangos, yn enwedig yn wyneb heriau fel y pandemig, bod cyngor gwyddonol yn gallu cael ei roi (a rhaid iddo gael ei roi!) yn gwbl annibynnol ar wleidyddion, mewn ffordd dryloyw, sy'n hygyrch ac yn agored i'r cyhoedd.

"Hoffwn roi diolch o’r galon i'r Pwyllgor am y wobr hon, i Lywydd yr Academi Jerzy Duszyński am y penodiad i'r Tîm, ac i'm cydweithwyr o'r Tîm, am bopeth yr wyf wedi'i ddysgu gennych."

Rhannu’r stori hon

Our first public value engagement scheme saw students and faculty engage with the disability employment gap, modern slavery, and social enterprise for the disadvantaged with third sector partners.