Ewch i’r prif gynnwys

Rhagolwg o ddiwrnod cyllideb Cymru

18 Tachwedd 2021

Cathays Park Crown Building

Er mwyn cydnabod streic UCU mewn prifysgolion ar 1-3 Rhagfyr, rydym wedi gohirio ein digwyddiad briffio cyllideb i 7 Rhagfyr (10yb). Nid oes angen i'r rhai sydd wedi cofrestu wneud unrhywbeth.

Mae ymchwilwyr yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi’r dyddiad ar gyfer eu digwyddiad briffio cyn cyllideb Llywodraeth Cymru fis nesaf.

Gan fod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23 yn cael ei chyhoeddi ar Ragfyr 20fed, bydd tîm Dadansoddiad Cyllid Cymru yn dadlennu Rhagolwg Cyllideb Cymru a chyhoeddi adroddiad awdurdodol ar y dewisiadau sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru a threthi datganoledig.

Er bod y rhagolwg cyllidol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru wedi cael ei drawsnewid gan gyllideb Llywodraeth y DG fis diwethaf, bydd yn rhaid i weinidogion wneud penderfyniadau allweddol ar faterion pwysig megis cost yr adferiad yn sgil COVID, gwasanaethau llywodraeth leol, a chyflogau yn y sector cyhoeddus.

Bydd y digwyddiad briffio ar y gyllideb yn cael ei gynnal ar Ragfyr 7fed am 10:00 AM ar Zoom, ac mae modd cofrestru drwy ddilyn y ddolen hon.

Rhannu’r stori hon