Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Madrid yn rhoi sylw i academydd o Gaerdydd mewn arddangosfa Cysylltiadau Rhyngwladol

16 Tachwedd 2021

Roedd nifer o'r ysgolheigion Cysylltiadau Rhyngwladol yn yr arddangosfa ar-lein gan Brifysgol Madrid. Mae'r Athro Zalewski ar y rhes isaf, yn ail o'r dde.
Roedd nifer o'r ysgolheigion Cysylltiadau Rhyngwladol yn yr arddangosfa ar-lein gan Brifysgol Madrid. Mae'r Athro Zalewski ar y rhes isaf, yn ail o'r dde.

Ar hyn o bryd mae academydd o Gaerdydd yn cael ei chynnwys mewn arddangosfa ar-lein sy'n arddangos gwaith gwyddonwyr a meddylwyr benywaidd sydd wedi gwneud cyfraniadau pwysig at ddadleuon damcaniaethol ym maes disgyblaeth Cysylltiadau Rhyngwladol (IR).

Mae'r Athro Marysia Zalewski, y mae ei gwaith yn canolbwyntio ar ddamcaniaeth Cysylltiadau Rhyngwladol beirniadol a theori Ffeministaidd a Rhywedd, yn cael ei chynnwys yn yr arddangosfa rithwir Women in the Theory of International Relations - 50 scientists and thinkers to better understand the world sydd wedi'i guradu gan fyfyrwyr ym Mhrifysgol Madrid o dan oruchwyliaeth y darlithydd Javier Morales Hernández.

Mae'r arddangosfa, sydd ar gael yn Sbaeneg a Saesneg, yn canolbwyntio ar waith 50 o ysgolheigion ac yn cynnwys bywgraffiad, crynodeb o feysydd ymchwil a thair enghraifft o'u cyhoeddiadau. Mae myfyrwyr hefyd wedi recordio ffeiliau sain ar gyfer pob proffil academaidd i esbonio pam y bydd eu gwaith yn ein helpu i ddeall y byd yn well.

Wrth siarad am ei brosiect, dywedodd Hernández, "Diben (y prosiect) oedd rhoi trosolwg o'r amrywiaeth enfawr o ddulliau, cenhedloedd, ieithoedd a chenedlaethau mewn dadleuon damcaniaethol IR.

I'm myfyrwyr mae hwn wedi bod yn gyfle cyffrous i ddysgu am gyfraniad menywod at IR, yn enwedig rhai awduron nad ydynt fel arfer yn cael eu cynnwys mewn maes llafur israddedig traddodiadol."

Wrth siarad am ei chynnwys yn yr arddangosfa, dywedodd yr Athro Zalewski, "Rwy'n falch iawn o gael sylw yn yr arddangosfa arloesol hon - ac i fod yn rhan o grŵp o ysgolheigion mor wych!"

Mae’r Athro Zalewski’n addysgu ar raglenni israddedig ac ôl-raddedig yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ar fodiwlau sydd ar hyn o bryd yn cynnwys Rhywedd, Rhyw a Marwolaeth mewn Gwleidyddiaeth Fyd-eang ac O Mary Wollstonecraft i Lady Gaga: Beth yw’r Ffeministiaeth ‘ma?  Hi yw un o Olygyddion y cyfnodolyn International Feminist Journal of Politics a chyd-olygydd y gyfres lyfrau Creative Interventions in Global Politics (Rowman & Littlefield International).

Rhannu’r stori hon