Ewch i’r prif gynnwys

Cyfarwyddwr Canolfan Islam y DU yn derbyn OBE

16 Tachwedd 2021

Director of Islam-UK Centre receives OBE
Copyright: The Crown/British Ceremonial Arts Limited

Athro mewn Astudiaethau Crefyddol a Diwinyddol yn mynd i seremoni arwisgo

Mae'r Athro Sophie Gilliat-Ray wedi derbyn OBE am wasanaethau i addysg a chymunedau Mwslimaidd ym Mhrydain mewn seremoni arbennig i'r rhai ar y rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd ar gyfer 2020.

Roedd y seremoni arwisgo dan ofal Ei Uchelder Brenhinol Dug Caergrawnt, a gyflwynodd yr anrhydeddau a gyhoeddwyd pan oedd y pandemig ar ei waethaf.

Mae gwaith yr Athro Gilliat-Ray yn canolbwyntio ar astudio crefydd ym mywyd cyhoeddus ym Mhrydain, ac mewn sefydliadau cyhoeddus yn arbennig, mewn ffordd gymdeithasol, gwyddonol ac anthropolegol.

Mae wedi ymchwilio’n helaeth i gaplaniaeth, yn enwedig mewn carchardai ac ysbytai, ers 1994. Yr Athro Gilliat-Ray yw cyfarwyddwr sefydlu Canolfan Islam y DU y Brifysgol, ac mae wedi ymrwymo i wneud ymchwil sy’n hyrwyddo dealltwriaeth o Islam a bywyd cymunedau Mwslimaidd ym Mhrydain.

“Anrhydedd o’r mwyaf yw cael y gydnabyddiaeth hon. Hoffwn ddiolch i’r rhai a wnaeth fy enwebu a’r llu o gydweithwyr a ffrindiau sydd wedi cefnogi fy ngwaith dros y blynyddoedd. Rwy’n ddyledus yn arbennig i’r cymunedau Mwslimaidd Prydeinig hynny sydd wedi bod mor hael eu hanogaeth a’u cefnogaeth ac sydd wedi fy ysbrydoli’n barhaus. Mae Saleem Kidwai, cyn-Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Mwslimiaid Cymru, yn haeddu sylw arbennig am ei gefnogaeth gyson."

Derbyniodd yr Athro Gilliat-Ray ei OBE ar 9 Tachwedd 2021 yng Nghastell Windsor.

Rhannu’r stori hon