Ewch i’r prif gynnwys

Cymrawd newydd Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol

15 Tachwedd 2021

Feet silhouetted on glass steps above

Mae'r Athro Emmanuel Ogbonna, Athro Rheolaeth a Threfniadaeth wedi cael Cymrodoriaeth Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol (FAcSS).

Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys meysydd astudiaethau sefydliadau, strategaethau, marchnata a rheoli adnoddau dynol.  Mae ei ddiddordebau ymchwil diweddar wedi bod ym meysydd diwylliant, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant sefydliadol, ac mae ei waith wedi archwilio sefyllfa cymunedau du a lleiafrifoedd ethnig yn y farchnad lafur.

Cydnabyddir Cymrodyr Newydd am ragoriaeth ac effaith eu gwaith a'u cyfraniadau ehangach at y gwyddorau cymdeithasol er budd y cyhoedd. Enwebwyd yr Athro Ogbonna am y wobr gan Gymdeithas Ddysgedig arall, Academi Rheolaeth Prydain, y mae hefyd yn Gymrawd ohoni.

Mae Cymrodoriaeth yr Academi yn cynnwys unigolion nodedig o'r sectorau academaidd, cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector, ar draws y gwyddorau cymdeithasol.

Yn gynharach eleni, croesawyd yr Athro Ogbonna i Gymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru, gan ymuno ag academyddion sy'n chwarae rhan bwysig ym mywyd cyhoeddus Cymru.

Rwy’n falch iawn ac mae’n anrhydedd cael fy nghydnabod gan yr Academi fel hyn. Rwy’n arbennig o falch bod y wobr yn cydnabod nid yn unig y cyfraniadau rydw i wedi’u gwneud at ymchwil reoli ond hefyd fy ngwaith yn cyd-gadeirio Grŵp Llywio Llywodraeth Cymru sy’n arwain datblygiad Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol: Cymru Wrth-hiliol.

Yr Athro Emmanuel Ogbonna Professor of Management and Organizational Behaviour

Dywedodd Will Hutton, Llywydd Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol: “Wrth i’r Academi ymestyn ei ffocws allanol, mae ymgysylltu â phob sector o’r gymuned gwyddorau cymdeithasol yn hanfodol bwysig ac rwy’n mawr obeithio tynnu ar wybodaeth ac arbenigedd ein Cymrodyr newydd.”

Rhannu’r stori hon