Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd yn mynd i EXPO 2020 Dubai

10 Tachwedd 2021

Alin Constantin and Ry Galloway, photos courtesy of Es Devlin.

Mae gwyddonwyr Prifysgol Caerdydd yn mynd â'u hymchwil i lwyfan y byd yn EXPO 2020 Dubai, i drafod dyfodol teithio a sut y bydd trydaneiddio'n dylanwadu arno.

Drwy nifer o weithdai rhyngweithiol a diddorol, a drefnwyd gan Dominic Dattero-Snell o'r Ysgol Peirianneg, bydd y tîm yn gwahodd cynulleidfaoedd i ddysgu, trafod a chyflwyno eu syniadau a'u barn ar sut y gallai trydaneiddio teithio effeithio arnynt yn y dyfodol.

Bydd cynulleidfaoedd yn cael eu herio gydag amrywiaeth o gwestiynau a syniadau sy'n ysgogi'r meddwl, gan gynnwys sut olwg fydd ar ein dulliau teithio ymhen 100 mlynedd, y mathau o danwydd a fydd yn gwneud y dulliau hyn yn bosibl, ac os byddwn yn gallu teithio mewn cerbyd cwbl awtomatig.

Bydd y gweithdai, a fydd wedi'u hanelu'n bennaf at blant ysgol fydd yn ymweld o'r Emiraethau Arabaidd Unedig, yn cael eu cyflwyno ochr yn ochr â nifer o arddangosiadau o dechnoleg y mae'r tîm yn eu defnyddio yn eu hymchwil bob dydd.

Mae ymchwil arloesol Prifysgol Caerdydd ym maes cerbydau trydan yn cael ei arwain gan y Ganolfan Ragoriaeth ar Gerbydau Trydan (EVCE), sy'n dwyn ynghyd arbenigwyr o Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd, y Ganolfan Ymchwil i Ddiwydiant Modurol (CAIR), Ysgol Busnes Caerdydd, yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, a'r Ysgol Seicoleg.

Mae gwaith o fewn y Ganolfan yn amrywio o faterion fel rheoli cerbydau'n awtonomaidd, gwefru cerbydau trydan mewn modd ddi-wifr ac ymddygiad defnyddwyr i fodelu systemau trafnidiaeth a gridiau clyfar.

Dywedodd yr Athro Liana Cipcigan, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ragoriaeth ar Gerbydau Trydan (EVCE): “Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i ni arddangos sut y gall ein hymchwil, ar draws Prifysgol Caerdydd, gyfrannu at y newidiadau y mae'r diwydiant trafnidiaeth yn debygol o'u gweld dros y 10 mlynedd nesaf, yn enwedig yn y DU. Wrth i ni sylweddoli pwysigrwydd lleihau cerbydau tanwydd ffosil a'u heffaith ar yr amgylchedd, bydd technoleg a newid ymddygiad yn cyfrannu at newidiadau yn y ffordd rydym yn teithio."

Dywedodd Laura Faulkner OBE, Comisiynydd Cyffredinol y DU: "Rydym yn falch o gael arbenigedd Prifysgol Caerdydd yn rhan o’n rhaglen o ddigwyddiadau sy'n dangos sut mae'r DU yn arwain y ffordd ym maes technoleg arloesol fydd yn cael effaith ledled y byd."

Diolch i gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, mae'r tîm wedi sicrhau lle ym Mhafiliwn y DU yn yr arddangosfa, a'i thema eleni yw 'Arloesi ar gyfer Dyfodol a Rennir'.

Wedi'i ysbrydoli gan un o brosiectau olaf Stephen Hawking, 'Breakthrough Message' (Neges Ddealltwriaeth), bydd Pafiliwn y DU yn gwahodd ymwelwyr i ystyried pa neges y byddem yn ei defnyddio i fynegi ein hunain fel planed pe byddem yn dod ar draws gwareiddiadau datblygedig eraill yn y gofod rhywbryd.

Ym mhafiliwn y DU y bydd yr Athro Yacine Rezgui, o'r Ysgol Peirianneg, yn cymryd rhan yn un o nifer o drafodaethau fforwm bywiog, a elwir yn Majlis Y Byd, i drafod dyfodol yr amgylchedd adeiledig.

Yn seiliedig ar un o arferion mwyaf coleddedig diwylliant Arabaidd – y 'majlis' traddodiadol – nod Majlis y Byd yw bod yn lle i syniadau a sgyrsiau wneud pynciau pwysig a chymhleth yn berthnasol i'r cyhoedd.

Mae'r Athro Morgan, o'r Ysgol Seicoleg, wedi cael ei ddewis fel siaradwr ar gyfer sesiwn yr uwchgynhadledd 'Newid ein hymddygiad i ddatblygu rhannu'r cyfrifoldeb' yn ystod 'Sut y byddwn ni'n Symud Ymlaen?' Breakthrough Moment (Moment o Ddealltwriaeth).

Disgrifiwyd EXPO 2020 Dubai yn ddathliad o greadigrwydd, arloesedd, dyngarwch a diwylliannau'r byd, a dyma fydd yr Expo Byd cyntaf i'w gynnal yn rhanbarth y Dwyrain Canol, Affrica a De Asia, a'r digwyddiad mwyaf a gynhaliwyd erioed yn y byd Arabaidd.

Gyda dros 190 o wledydd yn cymryd rhan, mae'n disgwyl denu tua 25m o ymwelwyr trwy gydol y chwe mis y bydd ar agor.

Ychwanegodd yr Athro Rudolf Allemann, y Rhag Is-Ganghellor, Recriwtio Myfyrwyr Rhyngwladol a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae'r Expo yn rhoi llwyfan gwych i ni dynnu sylw at bwysigrwydd cyfuno addysg ac ymchwil yn y maes pwysig hwn.

"Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig arbenigedd ar draws nifer o Ysgolion, o gatalyddion ar gyfer tanwyddau sy'n lleihau allyriadau i ddefnyddio mathau eraill o ffynonellau ynni i bweru ein trafnidiaeth a'n hamgylcheddau adeiledig. Yn sail i'r rhain mae data sy'n dod i'r amlwg a thechnolegau deallusrwydd artiffisial i ddeall patrymau galw a defnyddio. A ninnau’n Brifysgol fyd-eang flaenllaw sy'n gweithio tuag at drosglwyddo i allyriadau 'sero net', rydym yn falch iawn o fod yn rhan o'r digwyddiad byd-eang pwysig hwn."

Cynhelir Expo 2020 Dubai rhwng 1 Hydref 2021 – 31 Mawrth 2022, gyda gweithdai Prifysgol Caerdydd yn cael eu cynnal ym Mhafiliwn y DU, a leolir yn y Dosbarth Cyfle, ar 21 Tachwedd 2021.

Bydd Dr Yacine Rezgui yn cymryd rhan yn Majlis Y Byd, o'r enw ‘Digital Twins a Rhith-wirionedd', ddydd Mawrth 11 Ionawr 2022, rhwng 16:00 a 18:00.

Rhannu’r stori hon