Ewch i’r prif gynnwys

Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth yn 'Rhagorol' yn ôl Innovate UK

9 Tachwedd 2021

Mae'r cydweithrediad ymchwil diweddaraf rhwng ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd a chwmni ynni adnewyddadwy wedi cael ei ddisgrifio fel 'Rhagorol' gan un o gyrff Llywodraeth y DU.

Dair blynedd yn ôl, daeth SRS Works Ltd a'r Ysgol Peirianneg ynghyd i geisio datblygu gwrthdröydd llai ac ysgafnach ar gyfer paneli solar domestig. Bu’r Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (PTG) mor llwyddiannus nes ei bod bellach wedi'i hadnewyddu a'i hehangu i ganolbwyntio ar storio batris thermol.

Yr Athro Nick Jenkins a Dr Wenlong Ming a arweiniodd y gwaith a gwblhawyd yn ddiweddar gydag SRS Works Limited, gyda chyfraniadau gan Dr Sheng Wang, Rajesh Rajamony a Dr Karolina Rucinska.

Mae'r bartneriaeth lwyddiannus rhwng SRS Works Ltd a'r Ysgol Peirianneg wedi arwain at ddatblygu prototeip o wrthdröydd sy'n defnyddio'r dechnoleg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd ddiweddaraf. Gyda'r galw cynyddol am ynni adnewyddadwy, mae'r gwaith hwn yn dangos, gyda dyluniad clyfar, y gall gwrthdröyddion fod yn llai ac yn ysgafnach, ac felly ar gael yn haws i gwsmeriaid domestig.

Yn dilyn y bartneriaeth lwyddiannus hon, aeth SRS ymlaen i ddatblygu dwy PTG gadarnhaol arall gyda Phrifysgol Caerdydd, gan gadarnhau eu brand clodwiw o ran ymchwil a datblygu. Arweiniodd y prosiect hefyd at ddatblygiad proffesiynol i'r tîm ym Mhrifysgol Caerdydd. Er enghraifft, daeth Dr Sheng Wang yn ddarlithydd, a chynigiwyd swydd i Rajesh ym Mhrifysgol Newcastle.

Ar hyn o bryd, yr Athro Nick Jenkins yw Arweinydd Grŵp Ymchwil y Ganolfan Cynhyrchu a Chyflenwi Ynni Integredig, y mae Dr Wenlong Ming a Dr Sheng Wang hefyd yn aelodau ohono. Mae gan y grŵp arbenigedd rhyngwladol o ran cyflenwi a throsglwyddo ynni a nod eu hymchwil yw ymateb i'r heriau technegol o symud tuag at system ynni carbon isel.

Mae SRS Works Ltd yn gweithgynhyrchu cynhyrchion adnewyddadwy ac yn darparu gwasanaethau aer ac adnewyddadwy diogel.

Mae'r rhaglen PTG yn rhan o Strategaeth Ddiwydiannol y Llywodraeth a'i nod yw helpu busnesau i wella eu cystadleurwydd a'u cynhyrchiant drwy wneud defnydd gwell o wybodaeth, technoleg a sgiliau sy'n bodoli eisoes o fewn sylfaen wybodaeth y DU. Ariennir PTGau yn rhannol gan y corff a gefnogir gan y Llywodraeth, Innovate UK.

Rhannu’r stori hon