Ewch i’r prif gynnwys

Rheolwr Prosiect newydd yn ymuno â thîm y Porth Cymunedol

4 Tachwedd 2021

Corey Smith
Corey Smith, Community Gateway Project Manager

Bydd Corey Smith yn ymuno â thîm y Porth Cymunedol fel Rheolwr Prosiect, gan gymryd lle Lynne Thomas, o 22 Tachwedd 2021. Cawsom sgwrs gyda hi i ddysgu mwy amdani a’r hyn y mae’n edrych ymlaen ato fwyaf am ymuno â thîm y prosiect.

Croeso, Corey! Sonia ychydig wrthym am dy hun.

Fe ymunais i â Phrifysgol Caerdydd yn 2011 a dwi heb adael! Fe wnes i gwblhau fy MChem Cemeg gyda Blwyddyn mewn Diwydiant yn 2015 a pharhau ag astudiaethau ôl-raddedig drwy gyflawni PhD yn yr Ysgol Cemeg rhwng 2015 a 2019. Yn ystod fy astudiaethau fe ddechreuais i gymryd rhan mewn digwyddiadau allgymorth ac ymgysylltu yn hyrwyddo gwyddoniaeth, yn enwedig cemeg, i bobl o bob oedran.

Ers 2019 dwi wedi bod yn rheolwr prosiect ar gyfer rhaglen Trio Sci Cymru, sy’n cael ei rhedeg ar y cyd gan yr Ysgol Cemeg a’r tîm Ehangu Cyfranogiad. Mae’r rhaglen wedi cyflwyno gweithdai STEM arloesol i dros 3000 o ddisgyblion mewn ysgolion uwchradd ledled Cymoedd y De. Dwi’n edrych ymlaen at ymuno â’r Porth Cymunedol a datblygu ei gydberthnasau ymhellach ac adeiladu cysylltiadau newydd ar draws y Brifysgol a chymuned Grangetown.

Y tu allan i’r gwaith, dwi’n mwynhau sgwba-blymio, bod yn yr awyr agored a threulio amser gyda theulu a ffrindiau.

Sut glywaist ti am brosiect y Porth Cymunedol yn gyntaf?

Yn ystod fy mlwyddyn olaf fel myfyriwr PhD, yn 2018, helpais gyda Wythnos Heriau Mawr PSE, fel hwylusydd yn rheoli grwpiau o fyfyrwyr israddedig. Dyma’r tro cyntaf i mi glywed am y Porth Cymunedol; roedd Mhairi yn arwain un o’r grwpiau eraill o fyfyrwyr (nad oeddwn i’n gweithio gyda nhw!) Dysgais hefyd fod yr Ysgol Cemeg wedi cymryd rhan mewn rhai gweithgareddau ymgysylltu a gynhaliwyd yn hen Bafiliwn Bowlio’r Faenor. Dair blynedd yn ddiweddarach, mae’n hynod sut mae’r cylch wedi cael ei gwblhau wrth i mi ddod yn Rheolwr Prosiect newydd ar y Porth Cymunedol.

Beth wyt ti’n edrych ymlaen ato fwyaf yn dy rôl newydd fel Rheolwr Prosiect?

Dwi’n dwlu cwrdd â phobl newydd a chlywed am eu syniadau a’u profiadau. Mae gen i lawer o brofiad o ymgysylltu gyda ffocws ar ysgolion, felly dwi’n edrych ymlaen at ddefnyddio hyn a’i gymhwyso mewn lleoliadau cymunedol a gweithio gyda phobl o bob oedran. Mae ailddatblygiad Pafiliwn y Faenor yn wych - mae’r adeilad newydd wedi’i ddylunio’n hyfryd a dwi’n edrych ymlaen at weithio yna yn aml! Bydd ‘na lawer o sgiliau newydd i mi eu dysgu a phrofiadau i’w mwynhau wrth i PC ddechrau ar gam newydd, ond dwi’n barod am yr her!

Oes ‘na unrhyw brosiectau penodol rwyt ti’n edrych ‘mlaen at gymryd rhan ynddyn nhw?

Mae cymaint o brosiectau cyffrous, dwi ddim yn gwybod ble mae dechrau! Dwi newydd arwain ar fy nghais cyntaf am gyllid gyda’r preswylydd a’r artist o Grangetown, Prith Biant, sydd am ymgysylltu â menywod Asiaidd a Somali ifanc a’u galluogi i gyfranogi yn y Celfyddydau. Dwi hefyd wrth fy modd fod fy nghydweithwyr yn y tîm Ehangu Cyfranogiad wedi ffurfio partneriaeth â’r Porth Cymunedol yn 2022 - byddant yn cynnal sesiynau sydd â’r nod o rymuso rhieni i wneud newidiadau i gefnogi dyfodol eu plant a sicrhau bod eu plant yn cael cyfle teg mewn addysg.

Sut gall pobl gysylltu â ti, a phwy hoffet ti glywed ganddyn nhw?

Byddwn i wrth fy modd o glywed gan unrhyw un yn y Brifysgol neu’r gymuned leol os oes ganddyn nhw syniadau am bartneriaeth â’r Porth Cymunedol, a dwi hefyd yn barod i rannu fy mhrofiadau fy hun o ymgysylltu allgymorth. Fy nghyfeiriad e-bost yw smithCL22@caerdydd.ac.uk neu gallwch gysylltu â’r Porth Cymunedol yn uniongyrchol: communitygateway@caerdydd.ac.uk

Rhannu’r stori hon