Ewch i’r prif gynnwys

Cymeradwyo cyfleuster genomeg newydd i Gymru gwerth £15m

29 Hydref 2021

Cyhoeddwyd heddiw y bydd Parc Geneteg Cymru Prifysgol Caerdydd yn creu partneriaeth â thri sefydliad i ddatblygu cyfleuster genomeg newydd o'r radd flaenaf gwerth £15.3m ym mhrifddinas Cymru.

Mae Partneriaeth Genomeg Cymru wedi cael cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r ganolfan ym Mharc Gwyddorau Bywyd Cardiff Edge yn Coryton.

Bydd Parc Geneteg Cymru, sy'n cael ei gynnal gan Brifysgol Caerdydd a'i ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn ymuno â Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan ac Uned Genomeg Pathogenau Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Y nod yw “gweithio ar y cyd i harneisio potensial genomeg i wella iechyd, cyfoeth a ffyniant pobl Cymru” – ac mae'r datblygiad yn golygu mai Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i gyfuno gwasanaethau genomeg yn y ffordd hon.

Dyma a ddywedodd Dr Andrew Fry, cyfarwyddwr Parc Geneteg Cymru: “Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud buddsoddiad o bwys yn nyfodol genomeg yng Nghymru. Cyfle cyffrous yw hwn ar gyfer entrepreneuriaeth ac i ddatblygu meddygaeth fanwl yma.

“Bydd Parc Geneteg Cymru yn canolbwyntio ar ymgysylltu â’r cyhoedd, y GIG, cwmnïau, a phrifysgolion eraill ledled Cymru i sicrhau’r budd mwyaf posibl yn sgîl y datblygiad hwn sy’n gam cyffrous ymlaen i fyd genomeg yng Nghymru. Bydd y weledigaeth gyffredin hon ym maes ymchwil a darparu gwasanaethau genomig yn arwain at lawer o fanteision i iechyd poblogaeth Cymru a'n heconomi. ”

Mae meddygaeth fanwl yn ceisio gwella deilliannau drwy sicrhau achosion penodol o atal a thriniaethau pwrpasol ar gyfer unigolion neu grwpiau o gleifion yn seiliedig ar nodweddion moleciwlaidd sydd wedi'u diffinio'n benodol. Mae'n cynnwys egwyddorion ymchwil sylfaenol, genomeg, diagnosteg, arferion, rhagweld a chynnyrch.

Dyma a ddywedodd yr Athro Stephen Riley, pennaeth Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: “Mae'r lleoliad hwn ar ddau safle yn golygu y bydd modd sicrhau cyfleoedd newydd ym maes ymchwil glinigol ac arloesedd. Mae gan yr Ysgol Meddygaeth ragoriaeth ymchwil ac arloesedd yn y maes hwn a’i nod yw datblygu’r cyfleoedd a ddaw yn sgil hyn."

Rhoddwyd cymeradwyaeth gan Eluned Morgan, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a ddywedodd: "Mae Cymru wedi sefydlu ei hun ar flaen y gad o ran gwasanaethau ac ymchwil genomeg ac fel llywodraeth rydym yn parhau i fuddsoddi mewn prosiectau sy'n gwella canlyniadau iechyd, gan gynnwys datblygu profion genetig newydd ar gyfer gwasanaethau canser, Gwasanaeth Genomau Babanod a Phlant Cymru yn ogystal â'r gwasanaeth SARS-CoV-2 sydd o’r radd flaenaf.

"Bydd Partneriaeth Genomeg Cymru yn adeiladu ar y gwaith hwn drwy gydleoli disgyblaethau genomeg ar y safle newydd, ac rwy'n edrych ymlaen at weld beth fydd y bartneriaeth hon yn ei gyflawni yn y dyfodol."

Dywedodd Len Richards, uwch-swyddog sy’n gyfrifol am Bartneriaeth Genomeg Cymru, y byddai'n golygu bod modd i Gymru “gael ei chydnabod yn rhyngwladol fel lle delfrydol a llwyddiannus ar gyfer meddygaeth fanwl”.

Dyma a ddywedodd Geoff Walsh, Cyfarwyddwr Cyfalaf, Ystadau a Chyfleusterau Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: “Mae'r datblygiad hwn, sydd wedi bod ar y gweill ers nifer o flynyddoedd, yn gyfle i gyfuno arbenigedd genomeg go iawn ar draws sawl sefydliad, ond bydd ar ben hynny yn sicrhau capasiti hanfodol i dyfu a datblygu’r maes cyffrous hwn sy’n rhan o ofal iechyd ."

Bydd y datblygiad newydd yn arwain at adnewyddu adeilad presennol ym Mharc Gwyddorau Bywyd Cardiff Edge. Aelodau’r staff, cleifion a'r cyhoedd sydd wedi dylunio’r adeilad ar y cyd.

Yn sgîl yr adnewyddu bydd labordai cyfyngu microfiolegol a labordai ymchwil o'r radd flaenaf, cyfleusterau clinigol, ystafelloedd seminar, swyddfeydd modern ac ardaloedd sy'n hyrwyddo lles staff. Mae’r datblygiad i fod i agor yng ngwanwyn 2022.

Rhannu’r stori hon