Mae amseru cyflymder cylchrediad y cefnforoedd yn allweddol er mwyn deall hinsoddau yn Affrica yn y gorffennol
27 Hydref 2021
Mae gwyddonwyr wedi cyflwyno mecanwaith newydd a allai gyfrif, meddan nhw, am y cynnydd eithafol yn yr amgylchiadau cras yn nwyrain Affrica a arweiniodd yn y pen draw at y ffaith bod ein hynafiaid dynol cynnar wedi mudo am y tro cyntaf y tu allan i Affrica.
Mewn astudiaeth a gyhoeddwyd heddiw yn Nature, mae tîm dan arweiniad gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynnig bod newidiadau yng nghyflymder y cefnforoedd drwy Sianel Mozambique tua 2.1 miliwn o flynyddoedd yn ôl wedi digwydd ar yr un pryd â phatrwm cylchrediad atmosfferig a oedd wedi dechrau o'r dwyrain i'r gorllewin ar hyd y Cefnfor Tawel. Arweiniodd cylchrediad Walker, fel y'i gelwir, at newidiadau dilynol yn rhanbarth Cefnfor India gan achosi cyfnodau sych yn nwyrain Affrica.
Yn ôl y tîm, bu cyfnodau gwlypach a chynhesach rhwng yr ysbeidiau cynyddol oer a sych hyn, a gallai hyn gyfrannu at ddeall ac egluro pam y mudodd pobl o'r cyfandir am y tro cyntaf.
Gan ddefnyddio ffosiliau bach yn llawn organebau ungellog a elwir yn fforaminiffera, yn ogystal â gwaddodion a gymerwyd o waelod y cefnfor, aeth y tîm ati i ail-greu cofnod hinsoddol sy’n ymestyn 7 miliwn o flynyddoedd i'r gorffennol.
Cymerwyd craidd y gwaddod o Sianel Mozambique, sef braich 1,600km o hyd yn rhan orllewinol Cefnfor India rhwng Madagasgar a Mozambique – a’i ddefnyddio i ail-greu cyflymder llif cylchrediad y cefnfor drwy gydol y cyfnod hwn.
Nododd y tîm ddau gyfnod arwyddocaol pan newidiodd cyflymder y cefnfor drwy'r sianel.
Digwyddodd y cyntaf tua 2.1 miliwn o flynyddoedd yn ôl gan gyd-daro â’r adeg pan ddechreuodd Cylchrediad Walker yn y Cefnfor Tawel, sef ffenomen sy’n digwydd pan fydd gwyntoedd masnachol y dwyrain yn symud dŵr ar yr arwyneb tua'r gorllewin. Digwyddodd yr ail newid tua 900,000 o flynyddoedd yn ôl gan gyd-daro â’r adeg pan ddechreuodd oesoedd dwys yr iâ a oedd yn digwydd fesul cylch sylweddol o tua 100,000 o flynyddoedd bob tro.
"Byddai’r ffaith bod cylchrediad Walker yn y Cefnfor Tawel a Chefnfor India ar waith ac wedi cynyddu yn y tymor hir wedi atal glaw rhag digwydd yn nwyrain Affrica, yn enwedig yn ystod oesoedd iâ ar ôl 2.1 miliwn o flynyddoedd yn ôl," meddai cyd-awdur yr astudiaeth, yr Athro Ian Hall, o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd Prifysgol Caerdydd.
Dyma a ddywedodd prif awdur yr astudiaeth, Dr Jeroen van der Lubbe, hefyd o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd Prifysgol Caerdydd: "Ar y dechrau, cawsom ein syfrdanu o weld bod ail-greu cyflymder llif y cefnfor yn Sianel Mozambique yn fanwl yn dangos bod pethau wedi parhau’n gymharol ddigyfnewid drwy gydol nifer o newidiadau sylweddol yn system hinsawdd y Ddaear, megis datblygiad y llenni iâ yn Hemisffer y Gogledd, ond roedd hefyd yn dangos mewn ffordd eglur iawn bod cylchrediad Walker yn y Cefnfor Tawel a Chefnfor India wedi dechrau ar yr un pryd tua 2.1 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
"Bellach, rydyn ni wedi nodi mecanwaith sy’n dangos pam roedd hyn wedi digwydd".
Yn ôl y tîm, gallai'r canlyniadau ddylanwadu ar astudiaethau yn y dyfodol o ran deall sut y gallai amrywiadau yn yr hinsawdd fod yn ffactor allweddol sy’n esbonio’r ffordd yr oedd teulu hominin wedi esblygu ac ymledu yn ystod y 2.1 miliwn o flynyddoedd diwethaf.
Ychwanegodd yr Athro Jose Joordens, cyd-awdur yr astudiaeth o Ganolfan Bioamrywiaeth Naturalis yn yr Iseldiroedd: "Tua 2 filiwn o flynyddoedd yn ôl, roedd llawer o amrywiaeth ymhlith teulu hominin yn Affrica, ac mae hyn yn awgrymu bod cryn ehangu'n digwydd o ran grwpiau o bobl ar wasgar a gwahaniaethau yn y deiet ymhlith sawl rhywogaeth o genws Homo. Hefyd, dyma’r adeg yr ymledai poblogaethau Homo cynnar am y tro cyntaf ymhell y tu hwnt i Affrica.
"Mae’r hyn a oedd wedi achosi’r digwyddiadau hyn yn ddirgelwch o hyd, ond credwn y gallai ein cofnod manwl o'r hinsawdd fod yn allweddol i ddatrys llawer o'r dirgelion sy’n parhau hyd heddiw ym maes palaeoanthropoleg."
Casglodd taith wyddonol 361 Rhaglen Darganfod y Cefnforoedd Rhyngwladol (IODP), lle'r oedd yr Athro Ian Hall yn gyd-brif wyddonydd, y gwaddodion o Sianel Mozambique.
Ariannwyd yr astudiaeth, dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, gan Gyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol y DU, Cyngor Ymchwil yr Iseldiroedd ac roedd tîm rhyngwladol o wyddonwyr ynghlwm wrth yr astudiaeth.