Ewch i’r prif gynnwys

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn penodi Llysgenhadon Ôl-raddedig newydd

25 Hydref 2021

Bedwyr stands in front of a research poster presentation at the ELRIG conference

Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi penodi llysgenhadon newydd, gan gynnwys myfyrwyr ôl-raddedig yn Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau Prifysgol Caerdydd.

Mae wyth llysgennad ôl-raddedig, sy'n cynrychioli ystod o feysydd ymchwil, wrthi’n datblygu cymuned ôl-raddedig Gymraeg ei hiaith yng Nghymru a thu hwnt.

Meddai Lois McGrath, Swyddog Datblygu Ymchwil a Hyfforddiant yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: "Rydyn ni wrth ein boddau gyda phenodiad y grŵp eithriadol hwn o lysgenhadon ôl-raddedig eleni ac  edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw yn ystod y flwyddyn academaidd.

"Bydd y llysgenhadon yn chwarae rhan flaenllaw wrth annog a hyrwyddo ein Rhaglen Sgiliau Ymchwil - rhaglen sy'n cynnig hyfforddiant a chefnogaeth i fyfyrwyr drwy gydol eu graddau ymchwil."

Bedwyr ab Ion Thomas o Brifysgol Caerdydd yw un o lysgenhadon y Coleg. Ar hyn o bryd mae’n cwblhau ei PhD yn y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau. Dyma’r hyn a ddywedodd: "Rwy'n edrych ymlaen at ddod â'r gymuned ôl-raddedig at ei gilydd, yn rhithwir ac wyneb yn wyneb.

"Rwy'n credu ei bod yn hanfodol bwysig bod ymdeimlad o gymuned yno rhwng yr ymchwilwyr gan fod pobl yn gallu teimlo fymryn yn unig ar adegau. Braint ac anrhydedd yw bod yn llysgennad ôl-raddedig, ac mae’n ffordd wych o rannu gweledigaeth ac enw da'r Coleg Cymraeg ym maes ymchwil ac addysg uwch."

Rhannu’r stori hon