Ysgol Busnes Caerdydd yn derbyn achrediad AMBA
22 Hydref 2021
![AMBA logo on navy background](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0010/2579446/AMBA-web.png?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Mae Ysgol Busnes Caerdyddwedi derbyn achrediad gan Gymdeithas MBAs (AMBA), un o awdurdodau mwyaf blaenllaw'r byd ar addysg fusnes ôl-raddedig, sy'n dangos ei hymrwymiad parhaus i ragoriaeth ym maes addysg reoli.
Ar ôl derbyn achrediad AMBA, gwahoddir holl fyfyrwyr MBA presennol a chynfyfyrwyr MBA diweddar Ysgol Busnes Caerdydd i ymuno â chymuned aelodau fyd-eang AMBA . Mae’r gymuned yn cynnwys dros 57,000 o fyfyrwyr a chynfyfyrwyr mewn mwy na 150 o wledydd. Ni chodir tâl am yr aelodaeth ac mae’n cynnig cyfleoedd i rwydweithio, arwain meddyliau, datblygu gyrfaoedd, ac amrywiaeth o fanteision.
Achrediad gan Gymdeithas MBAs (AMBA) yw'r safon uchaf o gyflawniad ym maes addysg fusnes ôl-raddedig. Mae ei feini prawf asesu trylwyr yn sicrhau mai dim ond y rhaglenni o'r radd flaenaf ac sy'n dangos y safonau uchaf o ran addysgu, cwricwlwm a rhyngweithio myfyrwyr, sy'n cyflawni achrediad Cymdeithas MBAs.
Wrth ddyfarnu’r achrediad, fe wnaeth aelodau panel achredu AMBA, sy'n cynrychioli uwch-reolwyr Ysgolion Busnes wedi’u hachredu gan AMBA yn fyd-eang, ganmol ymrwymiad yr Ysgol i'w strategaeth Gwerth Cyhoeddus, arweinyddiaeth y Deon, yn ogystal â chryfder ymchwil yr Ysgol. Tynnodd y panel sylw hefyd at y ffordd y mae ymchwil yr Ysgol yn llywio ei chwricwla MBA, yr hyfforddiant gweithredol a roddir i fyfyrwyr MBA, diwylliant colegol yr Ysgol, a phroffesiynoldeb staff y gwasanaethau proffesiynol.
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0005/1344452/Rachel-Ashworth-Avatar.jpg?w=100&h=100&auto=format&crop=faces&fit=crop)
Rydym yn hynod falch o dderbyn achrediad AMBA ac rydym wrth ein boddau ein bod yn ymuno â chymuned AMBA. Mae'r cyflawniad hwn yn dangos ein hymrwymiad i wella profiad y myfyrwyr a chyflwyno rhaglenni MBA rhagorol ac unigryw sy'n adlewyrchu ein diben o ran Gwerth Cyhoeddus.
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0009/2579346/Andrew-Main-Wilson-CEO-AMBA-Cropped.png?w=100&h=100&auto=format&crop=faces&fit=crop)
Mae'n bleser gen i groesawu Ysgol Busnes Caerdydd i'n rhwydwaith o Ysgolion Busnes sy'n arwain y byd. Mae AMBA wedi ymrwymo i godi proffil a safonau addysg fusnes ar draws y byd, er budd Ysgolion Busnes, myfyrwyr MBA a graddedigion a chynfyfyrwyr, cyflogwyr, cymunedau a chymdeithas drwyddi draw. Edrychaf ymlaen at weithio gydag Ysgol Busnes Caerdydd i gyflawni'r nodau hyn.