Ewch i’r prif gynnwys

Gwobrau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

21 Hydref 2021

Darlithydd athroniaeth yn ennill gwobr genedlaethol

Mae'r Uwch Ddarlithydd mewn Athroniaeth Dr Huw Williams wedi ennill Gwobr Gwerddon yng Ngwobrau Blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol eleni.

Enillodd Deon y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd y wobr am ei erthygl 'Y Llwybr tuag at Heddwch Parhaol: John Rawls a’r Athrawiaeth Rhyfel Cyfiawn’.

Mae Huw yn athronydd gwleidyddol sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol at ddadl gyhoeddus yng Nghymru drwy ei gyfrolau Credoau'r Cymry ac Ysbryd Morgan: Adferiad y Meddwl Cymreig, a chyfraniadau amrywiol at gyfnodolion gan gynnwys Planet ac O'r Pedwar Gwynt. Fel cyd-olygydd mae hefyd wedi cyhoeddi’n ddiweddar The Welsh Way: Essays on Neoliberalism and Devolution gyda Gwasg Parthian.

Roedd gwobrau blynyddol y Coleg yn cydnabod darlithwyr a myfyrwyr cyfrwng Cymraeg a wnaeth gyfraniad sylweddol at addysg cyfrwng Cymraeg ôl-orfodol yn ystod 2020-21.

Dywedodd Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg, Dr Ioan Matthews:

"Mae'n briodol iawn ein bod yn dechrau blwyddyn o ddathliadau i nodi degfed pen-blwydd y Coleg drwy wobrwyo rhai o'n dysgwyr a'n myfyrwyr Cymraeg disgleiriaf, a'n darlithwyr cyfrwng Cymraeg mwyaf ymroddedig. Myfyrwyr, dysgwyr a darlithwyr sydd wedi bod wrth wraidd llwyddiant y Coleg dros y degawd, ac rydym yn falch o'u llwyddiant ysgubol dros y flwyddyn ddiwethaf."

Ac yntau’n aelod oGyfraith Caerdydd a Chyfiawnder Byd-eang, mae gan Dr Huw Williams ddiddordeb arbennig mewn  traddodiadau egalitaraidd a radicalaidd o feddwl, gan ganolbwyntio ar ymgysylltu ag actifiaeth a'r maes cyhoeddus.

Rhannu’r stori hon