
Dr Huw Williams
Deon y Gymraeg, Darllenydd mewn Athroniaeth a Darlithydd Cysylltiol i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- williamsh47@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 4806
- 1.40, Adeilad John Percival , Rhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU
- Siarad Cymraeg
- Ar gael fel goruchwyliwr ôl-raddedig
Trosolwg
Rwy'n athronydd gwleidyddol, yn ymddiddori mewn traddodiadau egalitaraidd a radical, gyda ffocws arbennig ar ymgysylltu gydag ymgyrchu a'r gyhoeddfa (public sphere). Cysyllta fy ymchwil cyfiawnder byd-eang a damcaniaeth wleidyddol ryngwladol yn fwy cyffredinol gyda diddordeb yn y lleol, sef hanes deallusol Cymru a’i thraddodiadau deallusol blaengar.
Rwyf hefyd yn Ddeon y Gymraeg, rôl sy'n ymestyn ar draws y Brifysgol acsy’n darparu arweinyddiaeth strategol ar gyfer y cyfleoedd a’r cyfrifoldebau hynny sy’n deillio o’n dwyieithrwydd, o fewn ein hamgylchedd amlieithog lleol a byd-eang.
Rwyf wedi cyhoeddi amrywiaeth eang o ysgrifennu yn y Gymraeg a’r Saesneg, o lyfrau i flogiau. Mae hwn yn cynnwys colofn athroniaeth a materion cyfoes i’r cylghrawn llenyddol O’r Pedwar Gwynt ac erthyglau ar gyfer cyhoeddiadau ar-lein fel The Conversation ac OpenDemocracy.
Bywgraffiad
Pan yn fyfyriwr israddedig astudiais athroniaeth a seicoleg yn yr LSE, a derbyniais Ddiploma gan Brifysgol Jagiellonian, Krakow, mewn Astudiaethau Canolbarth a Dwyrain Ewrop. Fel Ysgolor Morrell astudiais theori wleidyddol yn Ysgol Graddedigion Gwleidyddiaeth Prifysgol Efrog. Cefais Ph.D. o’r adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth yn 2009, lle dechreuais ar y pryd mewn swydd darlithydd, cyn symud i Gaerdydd yn 2012 fel darlithydd athroniaeth gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yn fy rôl fel darlithydd gyda’r Coleg fy nghyfrifoldeb yw ehangu addysgu athroniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws sefydliadau addysg uwch Cymru.
Ers 2018 bûm yn Ddeon y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, gan weithio fel arweinydd strategol ar draws pob agwedd ar ein gweithgaredd Cymraeg, gyda chyfrifoldeb am lunio a gweithredu ein strategaeth ar gyfer y sefydliad cyfan. Rwyf hefyd yn gynrychiolydd y Brifysgol gyda'r Academi Heddwch Cymru a sefydlwyd yn ddiweddar ac rwy’n rhan o grŵp yr Ysgol o ymchwilwyr Athroniaeth, ac yn aelod o Gyfraith a Chyfiawnder Byd-eang Caerdydd.
Y tu hwnt i’r Brifysgol rwy’n Llywydd yr Urdd Athronyddol ac ar Fwrdd Cyfarwyddwyr Mudiad Meithrin, elusen Cymru gyfan sy’n darparu gofal cyn-ysgol. Fi oedd ysgrifennydd ymgyrch TAG a frwydrodd yn llwyddiannus i sefydlu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn Ne Caerdydd, ac rwyf wedi bod yn ymwneud â gwahanol fathau o ymgyrchu ar lefel leol a chenedlaethol.
Cyhoeddiadau
2022
- Williams, H. 2022. Losing my religion?. [Online]. New Socialist: newsocialist.org.uk. Available at: https://newsocialist.org.uk/transmissions/losing-my-religion/
- Williams, H. 2022. Robert Owen on his 250th birthday: a very modern socialist. [Online]. Undod - Radical Independence for Wales: undod.cymru. Available at: https://undod.cymru/en/2021/05/14/robert-owen-ar-ei-benblwydd-yn-250-sosialydd-modern-iawn/
- Williams, H. 2022. Socrates ar y Stryd: Rhyfel. O'r Pedwar Gwynt(17)
- Williams, H. 2022. Reflections from Perfidious Albion: the pandemic as prism. In: Corona Phenomenon: Philosophical and Political Questions. Leiden: Brill Publications
- Williams, H. 2022. Beyond democracy promotion: Kant, Rawls, and a liberal alternative. Public Reason 13
2021
- Evans, D., Smith, K. and Williams, H. eds. 2021. The Welsh way: essays on neoliberalism and Welsh devolution. Cardigan: Parthian Books.
- Williams, H. 2021. The law of peoples. In: Leading Works in Law and Social Justice. Routledge, (10.4324/9780429287572-6)
- Williams, H. 2021. Socrates ar y Stryd: Rhianta. O'r Pedwar Gwynt(14)
- Williams, H. 2021. Ysbryd Morgan: Adferiad y Meddwl Cymreig. Y Traethodydd(Gorff), pp. 161-176.
- Williams, H. 2021. Socrates ar y Stryd: Ansicrwydd. O'r Pedwar Gwynt, article number: 15.
- Williams, H. 2021. Socrates ar y Stryd: Newid. O'r Pedwar Gwynt, article number: 16.
2020
- Williams, H. 2020. Ysbryd Morgan: Adferiad y Meddwl Cymreig. University of Wales Press.
- Williams, H. 2020. Socrates ar y stryd: cofleidio hanes. O'r Pedwar Gwynt(13)
- Williams, H. 2020. The 10 crumbling commandments of Welsh Labour’s common-sense Unionism. New Socialist
- Williams, H. 2020. Socrates ar y Stryd: marw’r hen a’r newydd na ddaw. O'r Pedwar Gwynt(12)
- Williams, H. 2020. Dibyniaeth y Sais. O'r Pedwar Gwynt
- Williams, H. 2020. Kant, Rawls a Gobaith mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol [Kant, Rawls and Hope in International Relations]. In: Matthews, E. ed. Rheswm a Rhyddid. Astudiaethau Athronyddol Vol. 8. Talybont: Y Lolfa
- Williams, H. 2020. Who owns the history and who benefits? Interview with Keith Murrell. [Online]. Undod - Radical Independence for Wales: undod.cymru. Available at: https://undod.cymru/en/2020/06/17/keith-murrell/
- Williams, H. 2020. Yr ymneilltuaeth newydd: gwywo Cymreictod. O'r Pedwar Gwynt
- Williams, H. 2020. Socrates ar y Stryd: Y Cof ar drothwy’r deugain. O'r Pedwar Gwynt(11)
- Williams, H. 2020. Tawelyddiaeth: cyflwr Cymreig. O'r Pedwar Gwynt
- Williams, H. L. 2020. Y Llwybr tuag at Heddwch Parhaol: John Rawls a’r Athrawiaeth Rhyfel Cyfiawn [The Path to Universal Peace: John Rawls and the Just War Doctrine]. Gwerddon 31, pp. 7-30.
2019
- Williams, H. 2019. Gwneud lle i’r enaid yn 2020. O'r Pedwar Gwynt
- Williams, H. 2019. The democracy killers. [Online]. Undod - Radical Independence for Wales: undod.cymru. Available at: https://undod.cymru/en/2019/12/03/llofruddio-llywodraethu-democrataidd/
- Williams, H. 2019. Socrates ar y Stryd yn Michigan. O'r Pedwar Gwynt(10)
- Williams, H. 2019. Socrates ar y Stryd : Rory Stewart, sadrwydd a rhesymoldeb. O'r Pedwar Gwynt 9
- Williams, H. 2019. Dyneiddiaeth o’r Newydd: Troi yn ôl at Gristnogaeth. Agora 31
- Williams, H. 2019. Beyond Brexit. Planet Magazine: The Welsh Internationalist 236
- Williams, H. L. 2019. 'A Oes Dyfodol? Trafod Sosialaeth Gymreig o Safbwynt Hanesyddol' [Is there a future? Discussing Welsh Socialism from a Historical Perspective]. In: Matthews, E. ed. Llenydda, Gwleidydda a Pherfformio. Astudiaethau Athronyddol Vol. 7. Talybont: Y Lolfa
2018
- Flikschuh, K. and Williams, H. L. eds. 2018. Kantian Review: Special Issue on Kant & Rawls. Vol. 23:4. Cambridge: Cambridge University Press.
- Williams, H. 2018. Eisteddfod 2018 – rolyrcostyr emosiynyl. O'r Pedwar Gwynt 7
- Williams, H. 2018. Welsh politics has normalized UKIP’s chauvinist, brutish Britishness. [Online]. Nation.Cymru: Nation.Cymru. Available at: https://nation.cymru/opinion/welsh-politics-has-normalized-ukips-chauvinist-brutish-britishness/
- Williams, H. L. 2018. Is the time ripe for Wales to move to compulsory voting?. [Online]. The Conversation. Available at: https://theconversation.com/is-the-time-ripe-for-wales-to-move-to-compulsory-voting-82226
- Williams, H. L. 2018. Socrates ar y stryd: Gormes. O'r Pedwar Gwynt 6
- Williams, H. 2018. Socrates ar y stryd: y gymraeg. O'r Pedwar Gwynt 8
- Williams, H. 2018. Socrates ar y Stryd: Stoïciaeth. O'r Pedwar Gwynt 8
2017
- Williams, H. L. 2017. Socrates ar y Stryd: Annibyniaeth ysbryd a'r gwacter ystyr. O'r Pedwar Gwynt 5
- Williams, H. L. 2017. Socrates ar y stryd: cyfiawnder byd-eang ar y stepen drws. O'r Pedwar Gwynt 4
- Williams, H. L. 2017. Populism is splitting Britain but it could herald change for Wales. The Conversation 2017(Jul 18)
- Williams, H. 2017. Britain’s growing neo-fascism won’t die with UKIP. [Online]. Nation.Cymru: Nation.Cymru. Available at: https://nation.cymru/opinion/britains-growing-neo-fascism-wont-die-with-ukip/
- Williams, H. L. 2017. The case for a Labour-Plaid Cymru electoral pact to prevent a Tory majority in Wales. [Online]. WalesOnline. Available at: https://www.walesonline.co.uk/news/politics/case-labour-plaid-cymru-electoral-13029208
- Williams, H. L. 2017. Labour’s best hope of beating the Conservatives in Wales is a Plaid Cymru alliance. [Online]. The Conversation. Available at: https://theconversation.com/labours-best-hope-of-beating-the-conservatives-in-wales-is-a-plaid-cymru-alliance-76901
- Williams, H. L. 2017. Socrates ar y stryd: ffraeo a chymodi. O'r Pedwar Gwynt(3)
- Williams, H. L. 2017. Mind your language. [Online]. Open Democracy. Available at: https://www.opendemocracy.net/wfd/huw-williams/mind-your-language
- Williams, H. 2017. Y gwleidyddol a’r metaffisegol: pobl ac ysbryd yn athroniaeth J R Jones. In: Matthews, E. ed. Argyfwng Hunaniaeth a Chred: Ysgrifauar Athroniaeth J. R. Jones. Astudiaethau Athronyddol Vol. 6. Talybont: Y Lolfa
- Williams, H. L. and Death, C. 2017. Global justice: the basics. Routledge.
2016
- Williams, H. L. 2016. Socrates ar y Stryd: JR Jones a Fflamau Casineb. O'r Pedwar Gwynt(2)
- Williams, H. L. 2016. Socrates ar y Stryd. O'r Pedwar Gwynt 1
- Williams, H. L. 2016. Segurdod yw clod y cledd - David Davies a’r helfa am heddwch wedi’r Rhyfel Mawr (David Davies and the hunt for peace following the Great War). In: Matthews, G. ed. Creithiau. Gwasg Prifysgol Cymru
- Williams, H. L. 2016. Credoau'r Cymry: Ymddiddanion Dychmygol ac Adlewyrchiadau Athronyddol (Welsh credos: imaginary conversations and philosophical reflections). Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.
- Williams, H. L. 2016. Dance with the Devil. [Online]. Planet Extra. Available at: https://www.planetmagazine.org.uk/planet_extra/dance-with-the-devil
- Williams, H. L. 2016. For shame Cymru Fach, for shame. [Online]. Planet Extra. Available at: https://www.planetmagazine.org.uk/planet_extra/for-shame-cymru-fach
- Williams, H. L. 2016. John Rawls (1921-2002). In: Lebow, N., Schouten, P. and Suganami, H. eds. The Return of the Theorists: Dialogues with Great Thinkers in International Relations. Basingstoke: Palgrave MacMillan, pp. 293-301.
- Williams, H. L. 2016. Rhagair y golygydd gwadd (guest editor's preface). Gwerddon(21), pp. 5-9.
- Williams, H. L. 2016. Arresting UKIPia. [Online]. Planet Extra. Available at: https://www.planetmagazine.org.uk/planet_extra/arresting-ukipia
2015
- Williams, H. L. 2015. Corbyn for Cymru. Planet Magazine 2015(219), article number: 01.11.15.
- Williams, H. L. 2015. Law yn Llaw: Athroniaeth a'r Gymraeg? (Hand in Hand: Philosophy and Welsh). In: Matthews, E. G. ed. Astudiaethau Athronyddol 4 (Philosophical Studies 4). Y Lolfa
2014
- Williams, H. L. and Gealy, W. 2014. Swyddogaeth Athroniaeth [The task of philosophy]. In: Matthews, E. G. ed. Y Drwg, Y Da a'r Duwiol. Astudiaethau Athronyddol Vol. 3. Tal-y-bont: Y Lolfa, pp. 85-95.
- Williams, H. L. 2014. Wacky races: Miller, Pogge and Rawls, and conceptions of development in the global justice debate. Journal of International Political Theory 10(2), pp. 206-228. (10.1177/1755088214526020)
- Williams, H. L. 2014. Pelagius a'r Syniad o Hunanwellhad (Pelagius and the idea of self-improvement). In: Matthews, E. G. ed. Astudiaethau Athronyddol 3 (Philosophical Studies 3). Y Lolfa
- Williams, H. 2014. Welsh Keywords: Hunaniaeth. Planet Magazine - The Welsh Internationalist 213, pp. 98-106.
- Williams, H. 2014. Considerations on the Scottish Referendum and a discourse on the British conundrum: Mill, Price and the question of nationalism. Annals of the Croatian Political Science Association 11(1), pp. 7-25.
2013
- Williams, H. L. 2013. The law of peoples. In: Mandle, J. and Reidy, D. A. eds. A Companion to Rawls. Blackwell Companions to Philosophy Wiley-Blackwell, pp. 327-345.
- Williams, H. 2013. Rhyfel Cyfiawn ac Athroniaeth John Rawls. In: Matthews, E. G. ed. Cenedligrwydd, Cyfiawnder a Heddwch - Ysgrifau Ar Athroniaeth Wleidyddol. Astudiaethau Athronyddol Aberystwyth: Y Lolfa, pp. 35-56.
2012
- Williams, H. 2012. What the life of Lord Elystan Morgan says about modern Wales [Newspaper Article]. Western Mail 2012(8 Nov)
- Morgan, E. Williams, H. ed. 2012. Elystan: atgofion oes. Talybont: Y Lolfa.
- Williams, H. 2012. Oisín Tansey, Regime-building: democratization and international administration [Book Review]. Intelligence and National Security 27(6), pp. 915-916. (10.1080/02684527.2012.708219)
2011
- Williams, H. L. 2011. On Rawls, development and global justice: The freedom of peoples. International Political Theory. Basingstoke: Palgrave MacMillan.
2010
- Williams, H. 2010. Equality and the British left: A study in progressive political thought, 1900–64. Ben Jackson. Manchester University Press, Manchester, 2007, 304pp., £60.00, ISBN: 978-0719073069 [Book Review]. Contemporary Political Theory 9(3), pp. 353-355. (10.1057/cpt.2009.28)
Addysgu
Diddordebau dysgu
Rwy'n dysgu ar amrywiaeth o fodiwlau athroniaeth a gwleidyddiaeth, yn bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae eu cwympo o fewn y meysydd canlynol:
- Athroniaeth wleidyddol gyfredol
- Theorïau cyfiawnder byd-eang
- Hanes meddwl gwleidyddol
- Athroniaeth ac athrawiaeth yng Nghymru
Mae fy niddordebau ymchwil yn rhychwantu meysydd athroniaeth gwleidyddol, theori wleidyddol ryngwladol, a hanes syniadau, gan ganolbwyntio ar agweddau egalitaraidd a radical yn arbennig. Yn benodol, rwyf wedi gweithio'n fanwl ar ddamcaniaeth ryngwladol John Rawls, materion cyfiawnder byd-eang, a hanes deallusol yng Nghymru.
Mae fy monograff, ar Rawls, Development and Global Justice: The Freedom of Peoples (2011, ailargraffwyd 2016) yn ymhelaethu ar ddull gwladwriaeth-saernio Rawls tuag at gymorth rhyngwladol, gan eirioli pragmatiaeth a goddef gwahaniaeth, gan gynnig safbwynt amgen i'r syniad priflif o saernio democratiaeth. Rwyf wedi ehangu fy nadansoddiad o Gyfraith y Pobl i faterion megis Hyrwyddo Democratiaeth, Rhyfel Cyfiawn a'r potensial ar gyfer dysgu moesol mewn cymdeithas ryngwladol.
Yng nghyd-destun Cyfiawnder Byd-eang mae gennyf ddiddordeb yn rhagdybiaethau'r dadleuon brif ffrwd. Rwyf wedi ysgrifennu ar y cysyniadau am ddatblygiad sydd ymhlyg yn y maes, ac yn y llyfr, Global Justice: The Basics (Routledge 2017) a gyd-awdurwyd â Carl Death, aethpwyd ati i drafod y rhyngwyneb rhwng theori ac ymarfer. Rwyf ar hyn o bryd yn ysgrifennu ar le iaith yn y ddadl, a hefyd y posibiliadau o ehangu ei phwrpas i ddisgyblaethau eraill megis astudiaethau llenyddol. Datblygir yr erthyglau hyn yng nghyd-destun chwilio am y seiliau athronyddol gyda'r gallu i greu mwy o undod byd-eang.
Mae fy monograffau Cymraeg diweddar, Credoau’r Cymry (2016 UWP) ac Ysbryd Morgan (2020 UWP) yn dod â’m hymchwil ar hanes deallusol yng Nghymru ynghyd, gan ganolbwyntio’n benodol ar ffigurau radical fel Pelagius, Richard Price, a JR Jones. Mae’r llyfrau’n arbrofi gyda ffurf, yn defnyddio deialogau dychmygol, ac yn adlewyrchu fy ymdrechion i ail-ddychmygu athroniaeth y Gymraeg a disgwrs feirniadol, yn fy rôl fel Cydymaith i’r Coleg Cymraeg.
Ceisiaf ddefnyddio’r sail ymchwil hwn fel man cychwyn ar gyfer cyfraniadau cyson i'r gyhoeddfa ar wleidyddiaeth gyfoes yng Nghymru. Yn 2012 cyhoeddais gofiant cyn-Weinidog enwog y Swyddfa Gartref, yr Arglwydd Elystan Morgan (Lolfa) ac yn fwy diweddar bûm yn cyd-olygu cyfrol ar wleidyddiaeth gyfoes, The Welsh Way (Parthian, 2021) – llyfrau a oedd ynghyd â’m traethodau niferus ar amrywiol llwyfannau'n adlewyrchu fy ymrwymiad i'r astudiaeth, a gwelliant o wleidyddiaeth a'r gyhoeddfa yn egin-democratiaeth Cymru.
Supervision
Rwyf wedi goruchwylio myfyrwyr ar draws ystod o bynciau. Fy meysydd o ddiddordeb arbennig yw:
- Athroniaeth Wleidyddol
- Cyfiawnder Byd-eang
- Theori Wleidyddol Ryngwladol
- Hanes Deallusol, Athroniaeth a Gwleidyddiaeth yng Nghymru
- Cyfiawnder Ieithyddol
- Athroniaeth ac Ymgyrchu