Ewch i’r prif gynnwys

Cylchlythyr Chwarter 3 2021

7 Hydref 2021

ThermoFisher 2021

Achrediad Ymarfer Labordy Clinigol Da (GCLP)

Yn dilyn archwiliad llwyddiannus o bell ym mis Gorffennaf, rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi cael ein hail-achredu tan fis Gorffennaf 2023 ar gyfer Ymarfer Labordy Clinigol Da (GCLP). Mae'r achrediad hwn yn ategu ein hardystiad ISO 9001:2015.

Mae GCLP yn system ansawdd rhyngwladol sefydledig ar gyfer labordai sy'n dadansoddi samplau o dreialon clinigol yn unol â rheoliadau rhyngwladol Ymarfer Clinigol Da (GCP), gan sicrhau ansawdd a dibynadwyedd data'r treialon clinigol a gynhyrchir gan y labordy. Edrychwch at yr hafan GCLP Qualogy i gael rhagor o wybodaeth am yr achrediad hwn.

Rydym yn parhau i fod yn awyddus i gynyddu’n gwaith yn cefnogi treialon clinigol mewnol ac allanol. Cysylltwch â ni i drafod sut gallwn ni gydweithio yn y maes hwn.

Ymunwch â'n cyfres gweminarau Mynegiant Genynnau

Rydym yn cynnal cyfres gweminarau â thair rhan, Mynegiant Genynnau, gan ThermoFisher. Bydd y gweminarau hyn yn cael eu cynnal ddydd Mawrth 16 Tachwedd, dydd Mercher 17 Tachwedd a dydd Iau 18 Tachwedd, rhwng 2pm a 4pm bob diwrnod. 

Cofrestrwch am y gweminarau ar y dolenni isod:
RHAN 1 Cyflwyniad i Fynegiant Genynnau - 16 Tachwedd
RHAN 2 gweithdy qPCR - 17 Tachwedd
RHAN 3 Gweithdy Microarray - 18 Tachwedd

Mae'r gweminarau hyn ar agor i ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd, sefydliadau academaidd eraill, y GIG a busnesau. Maent yn addas i ymchwilwyr sy'n newydd i'r meysydd hyn, yn ogystal ag ymchwilwyr mwy profiadol. Edrychwn ymlaen at eich gweld yn ymuno â ni.

Rheoli ansawdd yw'r elfen allweddol!

Roeddem yn falch o gael ein gwahodd i siarad am sut y gall System Rheoli Ansawdd (QMS) effeithiol fod o fudd i gyfleusterau craidd yn y gyngres Technolegau Craidd ar gyfer Gwyddorau Bywyd yn ddiweddar (gweler ar y dde!). Mae manteision o gael QMS ar waith yn cynnwys cyfleoedd yn y farchnad allanol lle mae achrediad yn gyn-gymhwyster ac yn dangos yr ymrwymiad i dryloywder, olrhain, dibynadwyedd a gwelliant parhaus. Hefyd, mae Meddalwedd QMS (fel Q-Pulse) yn galluogi'r holl ddogfennau busnes a gwyddonol allweddol i gael eu storio mewn un lle gan ei gwneud yn hawdd i'r tîm cyfan ddod o hyd iddynt. Rheoli ansawdd yw'r elfen allweddol mewn gwirionedd!

Hoffech chi ddysgu mwy am Dechnolegau Craidd ar gyfer Gwyddorau Bywyd?

Mae Technolegau Craidd ar gyfer Gwyddorau Bywyd (CTLS) yn gymdeithas rwydweithio ddielw sy'n dwyn ynghyd gwyddonwyr, staff technegol a gweinyddol sy'n gweithio mewn cyfleusterau craidd, isadeileddau ymchwil a labordai adnoddau eraill a rennir. Yn CBS rydym yn weithgar iawn yn y gymdeithas hon, gydag aelodau mewn tri o'r gweithgorau a chynrychiolaeth ddeuol ar y Cyngor Gweithredol.

Archwilio ar y wefan CTLS i ddysgu mwy am y gymdeithas hon a'r hyn y mae'n ei wneud i gefnogi'r llu o bobl sy'n gweithio mewn cyfleusterau craidd ledled y byd.

Hyfforddiant cytometreg lif

Rydym yn cynnal cyfres o weminarau hyfforddiant cytometreg lif gan Dr Graham Bottley yn InCytometry rhwng 18 a 22 Hydref. Cliciwch ar y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru:

Noder, er mwyn talu cost darparu'r hyfforddiant hwn, mae yna ffi o £25 i fynychu pob un o'r gweminarau hyn (ar wahân i'r weminar Cytometreg Llif Uwch sy'n rhad ac am ddim i'w fynychu). Fe'ch anfonebir gan CBS ar ôl mynychu.

Rydym yn parhau i drefnu sesiynau hyfforddi ar ystod eang o bynciau i gefnogi ymchwilwyr y tu mewn a'r tu allan i Brifysgol Caerdydd. Cysylltwch â ni os ydych chi am ddal i fyny ar weminarau a gollwyd neu os oes gennych unrhyw ymholiadau am sesiynau hyfforddi sydd ar ddod.

Technolegau Nanostring

Rydyn ni wrth ein bodd bod Proffilwr Gofodol Digidol GeoMxSystem Dadansoddi nCounter yn dod i Brifysgol Caerdydd! Mae hyn oherwydd cynnig llwyddiannus dan arweiniad Dr Hywel Williams i'r Gronfa Seilwaith Ymchwil (RIF). Bydd yr nCounter yn cael ei leoli yn CBS ac ymhen amser rydym yn edrych ymlaen at gynnig hwn i chi drwy fynediad defnyddiwr ac fel gwasanaeth rheoledig. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y newyddion cyffrous hyn!

Rhannu’r stori hon

Gallwch gael diweddariadau chwarterol gan y Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog yn uniongyrchol i'ch mewnflwch.