Ewch i’r prif gynnwys

Comisiwn Dyfodol Datganoli a Gwaith

20 Hydref 2021

Legs of business people sat in a circle

Penodwyd yr Athro Jean Jenkins, Athro Cysylltiadau Cyflogaeth yn Ysgol Fusnes Caerdydd, i arwain comisiwn annibynnol ar ddyfodol hawliau cyflogaeth a datganoli yng Nghymru.

Bydd y Comisiwn Dyfodol Datganoli a Gwaith, a sefydlwyd gan TUC Cymru, yn gyfrifol am ystyried yr effaith y mae’r trefniadau datganoli presennol yn ei chael ar ymdrechion i fynd i’r afael yn briodol â materion fel gwaith ansicr, diffyg cydymffurfio â hawliau llafur, a natur newidiol gwaith.

Bydd yr Athro Jenkins yn cael ei chynorthwyo gan banel annibynnol o arbenigwyr. Bydd enwau aelodau’r panel hwnnw yn cael eu cyhoeddi cyn cyfarfod cyntaf y Comisiwn fis nesaf.

Mae’r Comisiwn yn cael ei sefydlu yn dilyn pleidlais o blaid yng nghyfarfod Cyngres TUC Cymru ym mis Mai eleni. Bydd yn cyhoeddi adroddiad interim erbyn mis Mai 2022 ac adroddiad terfynol erbyn diwedd 2022.

Mae’r gwaith yn dilyn ymchwil diweddar gan TUC Cymru a ddangosodd gefnogaeth gref ymysg gweithwyr Cymru i roi mwy o bwerau i’r Senedd.

Yn ôl data gan YouGov a gomisiynwyd gan TUC Cymru, mae gweithwyr yn cefnogi bod penderfyniadau allweddol am Gymru yn cael eu gwneud yng Nghymru ar iechyd (56% o blaid – 29% yn erbyn), addysg (60%-27%), datblygu economaidd (53%-30%) a lles (47%-37%).

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer o newidiadau enfawr wedi effeithio ar weithwyr yng Nghymru. Rydym ni wedi gweld erydu cyson ar lawer o hawliau allweddol yn y gwaith, newidiadau mawr yng nghyfansoddiad sectoraidd economi Cymru, twf yr economi gig, ac effaith digideiddio ac awtomeiddio yn y gweithle.

Yr Athro Jean Jenkins Head of Management, Employment and Organisation Section, Professor of Employment Relations

“Mae’n hanfodol, felly, ein bod ni’n cymryd cam yn ôl ac yn edrych yn iawn ar sut mae ein marchnad lafur yn cael ei rheoleiddio, lle mae pŵer i’w gael, a pha newidiadau a allai fod eu hangen i symud tuag at y syniad o Gymru fel cenedl Gwaith Teg.

“Rydw i’n falch iawn o fod yn arwain Comisiwn TUC Cymru ac rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda’r panel arbenigol, undebau llafur a phartneriaid, a gweithwyr ar draws Cymru er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r heriau mawr sy’n ein hwynebu yn ein bywyd gwaith”.

Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru: 

“Rydym ni’n hynod falch bod yr Athro Jenkins wedi cytuno i arwain gwaith y Comisiwn Dyfodol Datganoli a Gwaith. Mae ganddi gyfoeth o arbenigedd a phrofiad o hawliau gweithwyr a chysylltiadau cyflogaeth.

“Am ry hir o lawer rydym ni wedi methu archwilio’r ffordd rydym ni’n trefnu ac yn rheoleiddio gwaith yng Nghymru. Canlyniad hyn fu symudiad tuag at fwy a mwy o dlodi, ansicrwydd ac anghydraddoldeb. Mae’n ddyletswydd arnom ni i geisio atebion i’r cwestiynau anodd ac i archwilio pob dewis posibl yn lle’r sefyllfa bresennol”.

Rhannu’r stori hon

Ni yw'r Ysgol Busnes Gwerth Cyhoeddus gyntaf yn y byd. Rydym yn poeni am fwy na llwyddiant economaidd, rydym am ymgorffori dynoliaeth, cynaliadwyedd, haelioni ac arloesedd yn y sector busnes.