Ewch i’r prif gynnwys

Rhagolwg o Adolygiad Gwariant 2021: Rhagolwg gwell ar gyfer cyllideb Cymru, ond yng nghyd-destun pwysau ôl-bandemig enfawr

19 Hydref 2021

Money and graph

Yn ôl tîm Dadansoddi Cyllid Cymru, mae’r rhagolwg cyllidol wedi gwella o’i gymharu â rhagolygon cyn etholiadau’r Senedd eleni – er bydd gwariant arfaethedig llywodraeth y DG yn 2024-25 dal i fod yn is na’r cynlluniau gwariant amlinellwyd ym mis Mawrth 2020.

Wrth gyhoeddi eu diweddariad ar gyllideb Cymru cyn Adolygiad Gwariant 2021, mae’r ymchwilwyr yn nodi y bydd gwariant o ddydd i ddydd ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru dros y tair blynedd nesaf yn tyfu o tua 3% y flwyddyn ar gyfartaledd mewn termau real.

Bydd yr Adolygiad Gwariant yn penderfynu grantiau bloc Llywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd 2022-23 i 2024-25, yn ogystal â chadarnhau’r cyllid ychwanegol fydd yn deillio o’r Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

O’i gymharu â chynlluniau Cyllideb Mawrth 2021, mae’r ymchwilwyr yn rhagweld y bydd cyllid Llywodraeth Cymru yn cynyddu o tua £659 miliwn yn 2022-23 a £497 miliwn yn 2024-25, er y gall y cynnydd fod yn is na hyn yn y pendraw os aiff cyfran o’r gwariant ychwanegol tuag at wariant ledled y DG.

Dywedodd Guto Ifan:

“Rydym yn rhagweld y bydd y cynnydd yng nghyllid Llywodraeth Cymru yn ddigonol ar y cyfan i gwrdd â’r pwysau gwariant ôl-bandemig yn y Gwasanaeth Iechyd dros y blynyddoedd i ddod. Gallai cyllid ar gyfer llywodraeth leol gynyddu hefyd os caiff cyllid sy’n deillio o wariant gofal cymdeithasol a gwariant ysgolion yn Lloegr yn cael ei drosglwyddo i gyllidebau awdurdodau lleol. Fyddai hynny’n golygu gallai cynnydd cymharol gymedrol yn nhreth y cyngor fod yn ddigonol i gwrdd â’r pwysau gwariant sy’n wynebu awdurdodau lleol.

“Ond hyd yn oed yn y senario hon, bydd gwariant mewn pob maes arall yn gorfod cael ei dorri’n ôl 2022-23, cyn cynyddu ychydig mewn termau real yn 2024-25.”

Mae Dadansoddi Cyllid Cymru (DCC) yn gorff ymchwil yng Nghanolfan Llywodraethu Cymru Prifysgol Caerdydd sy'n cynnal ymchwil awdurdodol ac annibynnol i gyllid cyhoeddus, trethiant a gwariant cyhoeddus Cymru.

Rhannu’r stori hon