Ewch i’r prif gynnwys

Gwefan newydd yn cael ei lansio ar gyfer ysgolion am heintiau ac ymwrthedd i wrthfiotigau

19 Hydref 2021

Gyda chymorth gwefan newydd a gyd-gynhyrchir gan wyddonwyr ac athrawon, bydd plant yn dysgu am beth sy’n achosi haint a'r bygythiad cynyddol o ymwrthedd i wrthfiotigau.

Maent wedi cyd-gynhyrchu gwefan ddwyieithog newydd i addysgu plant ac ennyn eu brwdfrydedd ynghylch beth sy’n achosi haint a'r bygythiad cynyddol o ymwrthedd i wrthfiotigau.

Bu ymchwilwyr o Brifysgolion Caerdydd a Bryste, ac athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd o bob rhan o Gymru, yn cydweithio i greu'r adnodd i gefnogi'r cwricwlwm newydd.

Mae gan "Superbugs", a lansiwyd ddydd Llun, gynnwys rhyngweithiol Cymraeg a Saesneg am y byd microbaidd sydd ynom, arnom ac o'n cwmpas, ac mae’n canolbwyntio'n benodol ar ymwrthedd i wrthfiotigau. Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi disgrifio’r ymwrthedd cynyddol i facteria mewn perthynas â llawer o feddyginiaethau hanfodol fel un o'r bygythiadau mwyaf i iechyd byd-eang ar hyn o bryd.

Dywedodd yr Athro Matthias Eberl, arbenigwr mewn heintiau ac imiwnedd o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, sy'n arwain y prosiect gyda Dr Jonathan Tyrrell o Brifysgol Bryste, ei fod yn gobeithio y byddai disgyblion yn "dod ar Antur Superbugs gyda ni".

"Rydym wir yn gobeithio y bydd gwefan Superbugs yn cael ei defnyddio mewn ystafelloedd dosbarth ledled Cymru, gan gefnogi athrawon i gyflwyno gwersi wyneb yn wyneb – yn ogystal â dysgu o bell," meddai.

Meddai Catherine Stone, athrawes yn Ysgol Gynradd Llanedeyrn yng Nghaerdydd: "Fe wnaeth gweithio gyda gweithwyr proffesiynol o ddisgyblaethau amrywiol alluogi trafodaethau hynod ddefnyddiol, gan rannu gwybodaeth, syniadau ac arbenigedd proffesiynol i greu gwefan ddyfeisgar. Mae gwefan Superbugs yn cynnwys adrannau amrywiol, gan gynnwys un ar gyfer teuluoedd sy'n dysgu gyda'i gilydd gartref, ac ar gyfer athrawon sy'n cynllunio profiadau dysgu ar gyfer eu disgyblion yn yr ysgol.

"Er bod y cynnwys ar wefan Superbugs yn seiliedig ar wyddoniaeth, fel y byddech yn ei ddisgwyl, mae hefyd yn cynnig agwedd drawsgwricwlaidd i'r addysgu, drwy gyfuno gwyddoniaeth â hanes, rhifedd, ysgrifennu storïau, a chelf a chrefft."

Datblygodd y prosiect ar ôl cymryd drosodd uned fanwerthu wag yng nghanolfan siopa brysuraf Cymru, Dewi Sant Caerdydd 2. Cafodd hyn ei wneud i greu profiad gwyddoniaeth rhyngweithiol a llawn hwyl yr oedd modd i bobl alw heibio iddo yn ystod gwyliau'r ysgol yn 2019.

Ers hynny, mae'r tîm o wyddonwyr, athrawon, arbenigwyr ymgysylltu â'r cyhoedd, dylunwyr graffig a dylunwyr y we wedi cydweithio i gynhyrchu'r adnodd newydd – a bydd yn parhau i'w ehangu a'i ddatblygu ymhellach gydag athrawon a disgyblion, yn ogystal â chynnal sesiynau holi ac atebion byw gyda gwyddonwyr.

Meddai Sarah Hatch, rheolwr cynnwys ac ymgysylltu â'r cyhoedd yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: "Mae wedi bod yn bleser bod yn rhan o'r prosiect hwn, yn gweithio ochr yn ochr ag athrawon i greu adnodd fydd yn cael effaith gadarnhaol ar athrawon a disgyblion. Mae hefyd yn rhoi’r cyfle i'n gwyddonwyr ymgysylltu â chynulleidfaoedd ar y datblygiadau gwyddonol diweddaraf yn y maes hwn."

Meddai'r athrawes Melissa Flannagan, o Ysgol Clywedog yn Wrecsam: "Mae'r elfen gydweithredol o weithio ar Superbugs wedi bod yn hynod gyffrous. Rwyf bellach wedi gweld sut mae syniad yn cael ei wireddu, yn ogystal â chael y cyfle i siarad â phobl ag arbenigedd mewn sawl maes gwahanol.

"Yn ôl pob golwg, roedd gan y tîm ddiddordeb gwirioneddol yn y syniadau yr oedd gennym ni, yr athrawon, ac roeddent yn awyddus i wybod beth oeddem yn credu fyddai'n gweithio gyda'n dysgwyr tra gwahanol. Rwy'n falch iawn o fod wedi bod yn rhan o hyn. Rwy'n falch fy mod wedi cofrestru, a byddwn yn bendant yn defnyddio'r wefan yn yr ysgol."

Mae Superbugs yn fenter ar y cyd sy'n cael ei rhedeg gan staff o Brifysgolion Bryste a Chaerdydd. Mae’n cael ei hariannu gan Gynllun ISSF Ymddiriedolaeth Wellcome a Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau Prifysgol Caerdydd.

Rhannu’r stori hon