Ewch i’r prif gynnwys

Perchenogaeth gan weithwyr

15 Hydref 2021

Employees at a desk in a modern office

Mae’r gyfres ddiweddaraf o Sesiynau Hysbysu dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd wedi canolbwyntio ar fanteision perchnogaeth gan weithwyr, a’r ochr ymarferol o’i chyflwyno.

Ymunodd David Sproxton, cyd-sylfaenydd Aardman Animations, â Derek Walker, Prif Weithredwr Canolfan Cydweithredol Cymru, i drafod y broses o drosglwyddo Aardman Animations i berchnogaeth gan weithwyr yn 2018.

Dechreuodd Derek y drafodaeth drwy ddiffinio perchnogaeth gan weithwyr fel trefniant lle mae’r rhan fwyaf o'r busnes yn eiddo i'w weithwyr ac, yn hollbwysig, lle mae’r gweithwyr yn cael cyfrannu at sut y mae'r busnes yn cael ei reoli.

Mae perchnogaeth gan weithwyr yn gynyddol boblogaidd, ac mae nifer y busnesau yn y DU sy'n eiddo i’r gweithwyr wedi cynyddu 30% yn 2020.

Esboniodd Derek Walker "Yn ôl y Gymdeithas Perchnogaeth gan Weithwyr, ffurfiwyd 250 o fusnesau newydd sy'n eiddo i’r gweithwyr yn y 18 mis hyd at fis Mehefin 2021, sy’n gwneud cyfanswm o 730 o fusnesau ledled y DU sy'n eiddo i’w gweithwyr."

Ychwanegodd "Mae’n gallu helpu o ran effeithlonrwydd ac elw. Dros amser, mae gweithwyr yn datblygu meddyfryd perchennog, ac yn meddwl am strategaethau tymor hir ar gyfer gwneud pethau'n wahanol, ac efallai'n gweithio’n fwy effeithlon."

Trafododd Derek hefyd sut y gall perchnogaeth gan weithwyr helpu o ran parodrwydd i gymryd risgiau, ac o ran recriwtio a chadw staff.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddyblu nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru yn ystod tymor presennol y Senedd. Mae gan Ganolfan Cydweithredol Cymru dîm o arbenigwyr sydd ar gael i gefnogi busnesau bach a chanolig sy'n ystyried symud i drefniant perchnogaeth gan weithwyr.

Ymunodd David Sproxton, cyd-sylfaenydd Aardman Animations, â'r sgwrs, gan rannu hanes y cwmni, a sefydlwyd ym 1972. Ers hynny mae wedi tyfu i fod yn enw byd-eang, gyda gwaith animeiddio sy’n cynnwys Morph, Wallace and Gromit, a Chicken Run.

Yn 2018, ar ôl treulio rhai blynyddoedd yn ystyried eu cynlluniau o ran ymddeol, penderfynodd y cyd-sylfaenwyr David a Peter Lord symud i drefniant perchnogaeth gan weithwyr, a gwerthwyd y cwmni i ymddiriedolaeth perchnogaeth gan weithwyr.

Cyflwynodd David hanes y cwmni, o'r syniad cychwynnol hyd heddiw. Wrth esbonio’r nifer fawr o gamau ar eu taith i fod yn gwmni sy’n eiddo i’r gweithwyr, nododd mai un o fanteision y newid oedd y strwythur cyfathrebu cryf a roddwyd ar waith fel sefydliad sy'n eiddo i’r gweithwyr, a sut gwnaeth hyn eu helpu i oresgyn problemau yn ystod cyfnod COVID-19.

Aeth David yn ei flaen: "Un o'r pethau sy’n achosi straen mawr ym myd gwaith yw teimlo nad ydych chi’n gallu rheoli eich gwaith o ddydd i ddydd, na dyfodol eich cwmni. Mae dod yn gwmni sy’n eiddo i’r gweithwyr fwy neu lai yn sicrhau bod dyfodol i’r cwmni, a bod gan weithwyr rywfaint o reolaeth drosto; rhywfaint o fewnbwn; a rhyw deimlad o ddiogelwch."

Yn ystod y sesiwn, rhannodd David fanylion y camau a gymerodd Aardman er mwyn dod yn gwmni sy’n eiddo i’r gweithwyr, o'r elfennau logistaidd a chyfreithiol, i'r materion niferus eraill y bu’n rhaid gweithio drwyddynt.

Daeth David â'r sesiwn i ben gyda'r cyngor canlynol i gwmnïau sy'n ystyried symud i drefniant perchnogaeth gan weithwyr: "Gwnewch eich gwaith cartref, peidiwch â rhuthro i mewn iddo. Meddyliwch am ddiben eich cwmni. A siaradwch â phobl."

Mae Sesiynau Hysbysu dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd yn rhwydwaith o ddigwyddiadau sy’n galluogi cysylltiadau busnes i gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil a'r datblygiadau diweddaraf gan bartneriaid diwydiannol.

Oherwydd y cyfyngiadau symud a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru o ganlyniad i bandemig COVID-19, mae Tîm Addysg Weithredol yr Ysgol wedi symud y gyfres ar-lein.

Os nad oeddech yn gallu bod yn bresennol, dyma recordiad o’r digwyddiad.

I gael rhagor o wybodaeth am berchnogaeth gan weithwyr, cysylltwch â Chanolfan Cydweithredol Cymru.

Rhannu’r stori hon

Galluogi ein cysylltiadau ym maes busnes i gael gwybod rhagor gan bartneriaid ac ymarferwyr yn y diwydiant am yr ymchwil ddiweddaraf a datblygiadau allweddol.