Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaeth newydd yn datgelu cysylltiad rhwng sgitsoffrenia ac anhwylderau niwroddatblygiadol

15 Hydref 2021

Plasma to represent brain signals

Mae grŵp sgitsoffrenia Canolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Genomeg a Geneteg Niwroseiciatrig wedi dod o hyd i gysylltiad rhwng sgitsoffrenia ac anhwylderau niwroddatblygiadol, sy'n cynnwys anhwylderau sbectrwm awtistiaeth ac anhwylderau datblygiadol, sy'n dangos bod pobl sydd â'r cyflyrau hyn yn cario mathau tebyg o fwtaniad prin o fewn genynnau risg cyffredin.

Nododd y papur, a gyhoeddir gan Nature Communications,  hefyd set o fwtaniadau penodol sy'n debygol o gynyddu risg ar gyfer sgitsoffrenia ac anhwylderau niwroddatblygiadol.

Mae'n wybyddus fod rhai o'r mwtaniadau hyn yn achosi anhwylderau syndromig penodol, sy'n awgrymu y dylid cynnwys sgitsoffrenia fel nodwedd bosibl o'r syndromau hyn.

Dywedodd Dr Elliott Rees, Cymrawd Arweinwyr y Dyfodol gydg Ymchwil ac Arloesi'r DU (UKRI) yn yr Isadran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol:

Mae ein hastudiaeth yn datblygu ein dealltwriaeth o'r sail enetig gyffredin rhwng sgitsoffrenia ac anhwylderau niwroddatblygiadol sy'n cychwyn yn gynnar, megis anhwylder sbectrwm awtistiaeth ac anhwylderau datblygiadol. Trwy ddadansoddi data genetig o 3,444 o deuluoedd y mae sgitsoffrenia yn effeithio arnyn nhw a thros 37,000 o deuluoedd y mae anhwylderau niwroddatblygiadol yn effeithio arnyn nhw, rydym ni'n dangos bod modd rhannu mathau tebyg o fwtaniad prin rhwng pobl sydd â'r cyflyrau hyn weithiau.
Dr Elliott Rees Research Associate, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Parhaodd Dr. Rees, "Mae hyn yn awgrymu bod rhai o’r prosesau biolegol sy’n sail i sgitsoffrenia hefyd yn sail i anhwylderau niwroddatblygiadol, sydd â goblygiadau pwysig o ran sut mae’r cyflyrau hyn yn cael eu dosbarthu ar hyn o bryd.”

Weithiau gellir colli symptomau sy'n nodweddiadol o sgitsoffrenia mewn pobl ag anhwylderau niwroddatblygiadol.

Mae canfyddiadau'r grŵp yn amlygu'r angen clinigol am well ymwybyddiaeth fod y cyflyrau hyn weithiau'n gallu cyd-ddigwydd mewn pobl.

Mae sgitsoffrenia’n gyflwr iechyd meddwl difrifol a all gael effeithiau difrifol ar iechyd, gweithredu cyffredinol a hyd oes unigolion a lles eu teuluoedd.

Mae llawer o enynnau bellach wedi'u cysylltu â sgitsoffrenia ac anhwylderau niwroddatblygiadol. Mae canfyddiadau'r astudiaeth yn awgrymu bod newidiadau i swyddogaeth genynnau sy'n cynyddu'r risg i sgitsoffrenia weithiau’n gallu gwneud yr un peth i anhwylderau niwroddatblygiadol.

Darllenwch y papur llawn: Schizophrenia, autism spectrum disorders and developmental disorders share specific disruptive coding mutations: Schizophrenia, autism spectrum disorders and developmental disorders share specific disruptive coding mutations

Rhannu’r stori hon