Ewch i’r prif gynnwys

Cymdeithas Astudiaethau Iberaidd yn creu hanes gyda’r gynhadledd ar-lein gyntaf

14 Hydref 2021

Cynhaliodd yr Ysgol Ieithoedd Modern ei chynhadledd ar-lein gyntaf ym mis Medi ar gyfer y Gymdeithas Astudiaethau Iberaidd Cyfoes.

Mae’r gynhadledd, a gynhaliwyd rhwng 1 a 3 Medi 2021, yn ei 42ain flwyddyn erbyn hyn, ond dyma’r tro cyntaf iddi gael ei chynnal ar-lein.

Mae’r Gymdeithas yn cynnal cynhadledd ryngwladol ac amlddisgyblaethol ar ddechrau mis Medi bob blwyddyn, sydd fel arfer yn teithio rhwng gwahanol brifysgolion yn Sbaen, Portiwgal a’r Deyrnas Unedig.

Mae’r papurau a phaneli yn canolbwyntio ar faterion cymdeithasol-ddiwylliannol, economaidd a gwleidyddol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yr ugeinfed ganrif a'r unfed ganrif ar hugain, gyda ffocws penodol ar Benrhyn Iberia a'i berthynas â'r byd Lwsoffon a Sbaenaidd ehangach. Y maes thematig eleni oedd Iberia: Cof, Trawsnewidiadau a'r Trawswladol, ac roedd yn cynnwys detholiad o 18 o baneli a thri phrif anerchiad.

Roedd y prif siaradwyr yn cynnwys yr Athro António Costa Pinto (Prifysgol Lisboa) a siaradodd am y gydberthynas rhwng hanes trefedigaethol a datblygiad democratiaeth ym Mhortiwgal a Sbaen, Dr Teresa Abelló a Dr M. Lourdes Prades (Prifysgol Barcelona) a drafododd eu prosiect archifau digidol diweddar ar y brigadau rhyngwladol yn Rhyfel Cartref Sbaen (SIDBRINT), a'r Athro Parvati Nair (Queen Mary, Prifysgol Llundain) a drafododd nwyddau materol, mudwyr trawswladol, a’r dynameg ffiniau ymhlith manteros Sbaen gyfoes.

Roedd dros 100 o bobl yn cymryd rhan yn y gynhadledd o bedwar ban y byd, gyda phobl yn cysylltu o mor bell i ffwrdd â Puerto Rico a'r Emiraethau Arabaidd Unedig.

Wrth siarad am y gynhadledd, dywedodd y trefnydd, Dr Siân Edwards, Uwch-ddarlithydd mewn Astudiaethau Sbaenaidd, "Er gwaethaf yr amgylchiadau heriol ar hyn o bryd, roedden ni wrth ein bodd i allu cynnal cynhadledd ar-lein gyntaf y Gymdeithas ar Zoom eleni. Drwy wneud hynny, denwyd llawer o ymwelwyr efallai na fydden nhw wedi gallu bod yn bresennol yn y cyfnod cyn COVID-19, ac roedd hyn yn gam cadarnhaol iawn. Ymhlith uchafbwyntiau'r rhaglen i mi oedd y cyflwyniadau rhyngwladol hynod ddiddorol a'r dadleuon panel bywiog gyda chynrychiolwyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd, ac roeddwn i’n falch o gael y cyfle i’w hwyluso ar gyfer y Gymdeithas a'r Ysgol Ieithoedd Modern."

Daeth yr arian ar gyfer y gynhadledd eleni gan Swyddfa Materion Diwylliannol a Gwyddonol Llysgenhadaeth Sbaen yn y DU, gyda chefnogaeth bellach gan Institut Ramon Llull a chanolfan CEFH yn Universidade Católica Portuguesa, Braga.

Nod y Gymdeithas yw hybu a hyrwyddo gwaith i astudio agweddau cymdeithasol, llenyddol, diwylliannol, economaidd a gwleidyddol sy’n berthnasol i Benrhyn Iberia cyfoes, o fewn y byd Lwsoffon a Sbaenaidd ehangach. Mae hefyd yn cyhoeddi'r cyfnodolyn academaidd, International Journal of Iberian Studies, sy'n canolbwyntio ar Iberia cyfoes (yr 20fed a'r 21ain ganrif) ac yn croesawu erthyglau sy'n defnyddio methodoleg gymharol neu gydgysylltiedig ar gyfer astudio Sbaen a Phortiwgal, gan ystyried hunaniaethau, diwylliannau, cenedligrwydd a chymunedau eraill.

Rhannu’r stori hon