Ewch i’r prif gynnwys

Medal Frances Hoggan 2021 wedi’i rhoi i’r Athro Dianne Edwards

11 Hydref 2021

Mae’r Athro Dianne Edwards, Athro Ymchwil Nodedig ym maes Paleobotaneg o Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd, wedi ennill Medal Frances Hoggan 2021.

Mae Medal Frances Hoggan yn cydnabod ac yn dathlu cyfraniad eithriadol menywod sydd â chysylltiad â Chymru at feysydd gwyddoniaeth, meddygaeth, peirianneg, technoleg neu fathemateg. Enillodd yr Athro Edwards y wobr oherwydd ei hymchwil i blanhigion paleosöig.

Mae ymchwil yr Athro Edwards yn canolbwyntio ar hanes planhigion tir ar y Ddaear. Mae’n rhoi rhoi rhyw syniad o’r broses esblygiadol a helpodd planhigion i gytrefu’r tir a pha effaith y cafodd y planhigion hynny ar y pridd a’r aer yn yr oes honno. Mae ei gwaith ar gofnodion ffosil wedi arwain at nodi llawer o blanhigion tir a oedd yn bodoli dros 400 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Wrth dderbyn y fedal, dywedodd yr Athro Edwards: “Dros y 50 mlynedd diwethaf, rwyf wedi bod yn ffodus iawn i gael cymorth gan Brifysgol Caerdydd ac amrywiaeth o gyllidwyr i ddilyn trywydd hanes planhigion ar y Ddaear. A minnau wedi fy nghalonogi gan y wobr hon, rwy’n gobeithio y bydd ymchwil o’r fath, sy’n cael ei galw’n wyddoniaeth ddarganfod heddiw, yn parhau i fod yn bosibl i wyddonwyr ifanc, er mwyn eu galluogi i’w mwynhau.”

A hithau’n cael ei rhoi gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru, mae Medal Frances Hoggan wedi’i henwi ar ôl ymarferydd meddygol, ymchwilydd a diwygiwr cymdeithasol arloesol o Aberhonddu, a chwaraeodd rôl sylweddol yn y frwydr dros ganiatáu i fenywod yn y DU astudio meddygaeth yn y 19eg ganrif. Cymdeithas Ddysgedig Cymru yw academi genedlaethol y celfyddydau a’r gwyddorau sy’n dod ag arbenigwyr o bob maes academaidd a thu hwnt ynghyd.

Rhannu’r stori hon