Ewch i’r prif gynnwys

Skin lipids found altered in patients with psoriasis

6 Hydref 2021

Patient folding arms with visible psoriasis
Psoriasis is a skin condition that affects around 2% of people in the UK.

Canfod lipidau croen wedi'u newid mewn cleifion â psoriasis

Canfuwyd bod cyfres o lipidau croen a ddarganfuwyd yn ddiweddar yn cael eu newid mewn cleifion sy'n dioddef gyda psoriasis, yn ôl astudiaeth dan arweiniad Dr Chris Thomas yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd.

Amlygwyd yr ymchwil, a gynhaliwyd gan ddefnyddio sbectrometreg màs, mewn papur diweddar a gyhoeddwyd yn y Journal of Lipid Research. Ymddangosodd hwn mewn erthygl gan Gymdeithas America ar gyfer Biocemeg a Bioleg Foleciwlaidd  (American Society for Biochemistry and Molecular Biology) heddiw.

Mae psorasis yn glefyd croen sydd, yn ôl Adroddiad Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd ar Psoriasis (2016), yn effeithio ar o leiaf 100 miliwn o bobl ledled y byd. Mae'n datblygu'n fwyaf aml mewn oedolion o dan 35 oed a gall achosi darnau dolurus o groen coch sy’n cosi. Mae hyn yn gallu effeithio'n ddifrifol ar ansawdd bywyd rhai cleifion.

Dywed Dr Thomas, 'Ar hyn o bryd does dim modd gwella psoriasis. Gallai'r biomarcwyr posibl a nodwyd trwy'r ymchwil hwn gael eu targedu gan driniaethau mwy effeithiol yn y tymor hir. Bydd ymchwil bellach yn archwilio rôl y lipidau hyn yn natblygiad psoriasis ac yn ffisioleg y croen yn ehangach.'

With no current cure for psoriasis, the possible biomarkers identified through this research could be targeted by more effective treatments in the longer term. Further research will explore the role these lipids play in the progression of psoriasis and in the physiology of skin more broadly

Dr Chris Thomas Lecturer

Manylir ar ganfyddiadau'r astudiaeth hon mewn papur yn y Journal of Lipid Research Lipidomic and transcriptional analysis of the Linoleoyl-omega-Hydroxyceramide biosynthetic pathway in human psoriatic lesions

Rhannu’r stori hon