Ewch i’r prif gynnwys

Arbenigwr cadwraeth yn derbyn Medal Plowden

5 Hydref 2021

RWHA President Pamela Harper, Prof Jane Henderson, Plowden Medal Committee Chairman Nick Farrow. [Theo Wood Photography]

Athro Cadwraeth yn cael anrhydedd o fri am ei gwasanaethau i'r Proffesiwn Cadwraeth

Mae'r Athro Cadwraeth Jane Henderson wedi ennill Medal Cadwraeth Plowden i gydnabod ei chyfraniad ym maes cadwraeth.

Derbyniodd yr Athro Henderson, academydd ac ymarferydd hynod brofiadol, y wobr ar 29 Medi ym Mhalas St James am ei harweinyddiaeth a'i datblygiad rhagorol o genedlaethau newydd o weithwyr cadwraeth proffesiynol. Cafodd ei anrhydeddu hefyd am ei rôl hanfodol yn natblygiad y proffesiwn a'i hymrwymiad parhaus i ddod ag ymchwil ac arloesedd blaenllaw i ymarfer cadwraeth yn y DU ac yn rhyngwladol.

Dyfarnwyd medal aur 2021 i ddau unigolyn am y tro cyntaf - yr Athro Jane Henderson a chyfarwyddwr Holy Well Glass, Stephen Clare MBE - oherwydd safon eithriadol y ceisiadau eleni.

Dyfernir Medal Plowden yn flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol at ddatblygiad y proffesiwn cadwraeth ac y byddai ei enwebiad yn cael ei groesawu'n eang yn y gymuned gadwraeth.

Fe sefydlwyd yr anrhydedd ym 1999 er cof am fywyd a gwaith y diweddar Anrhydeddus Anna Plowden CBE (1938 – 1997). Mae'n cwmpasu pob agwedd ar gadwraeth, boed yn ymarferol, yn ddamcaniaethol neu'n rheolaethol mewn cyrff preifat a sefydliadau fel ei gilydd.

Mae Jane yn ffigwr blaenllaw ym maes Cadwraeth, a dywedodd:

"Mae cadwraeth yn broffesiwn mor arbennig. Rydym yn grŵp o bobl sydd ag hangerdd i wneud y pethau sy'n arbennig i bobl, barhau i fod yn arbennig. Mae cael cydnabyddiaeth gyda Stephen Clare am wneud cyfraniad eithriadol at broffesiwn rhagorol yn deimlad gwirioneddol wefreiddiol."

Mae'r Athro Jane Henderson yn ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru ar gyfer strategaeth amgueddfeydd, yn arbenigwr ar Safonau Ewropeaidd, ac yn ysgrifennydd cyffredinol y Sefydliad Cadwraeth Rhyngwladol. Roedd yn un o sylfaenwyr Gofal Casgliadau yn ogystal â phensaer y Cynllun Achredu Cadwraeth. Mae'n hyfforddi cenedlaethau'r dyfodol o gadwraethwyr yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, ac mae i’w chlywed yn aml ar bodlediad cadwraeth The C Word.

Rhannu’r stori hon