Ewch i’r prif gynnwys

WSA yn dod yn 3ydd yng ngwobrau prifysgolion gorau'r DU The Guardian 2022

4 Hydref 2021

Bute building
Bute Building, Welsh School of Architecture

Mae Ysgol Pensaernïaeth Cymru wedi dod yn y drydedd safle ymhlith y prifysgolion gorau ar gyfer pensaernïaeth yn y DU yn The Guardian University Guide.

Defnyddir The Guardian University Guide yn bennaf gan ddarpar-fyfyrwyr sy'n bwriadu dewis y brifysgol orau ar gyfer eu hanghenion, gan eu helpu nhw i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Yn wahanol i dablau cynghrair eraill, mae sgoriau'r Guardian yn canolbwyntio ar y pethau sydd bwysicaf i fyfyrwyr, megis addysgu a rhagolygon gyrfa da, yn hytrach nag ymchwil academaidd.

Mae'r canllaw yn sgorio prifysgolion ag wyth sgôr wahanol, o gyfanswm o 100. Mae'r rhain yn cynnwys beth mae myfyrwyr yn ei ddweud am addysgu, adborth a'r cwrs ei hun yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr.

Mae'r sgoriau hefyd yn edrych ar feintiau'r dosbarthiadau a'r gymhareb myfyrwyr i staff, a faint mae prifysgolion yn ei wario ar addysgu fel myfyriwr, yn ogystal â graddau lefel A myfyrwyr ac os yw eu perfformiad academaidd yn gwella yn y brifysgol (y sgôr ychwanegu gwerth), a pha mor debygol ydyn nhw o barhau â'r cwrs. Mae data ar gael hefyd ar faint o fyfyrwyr sy'n cael swyddi i raddedigion 15 mis ar ôl gadael y brifysgol.

Mae Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn falch iawn o sgorio 85.8 allan o 100, gan ddod yn drydedd yn y tablau ar gyfer pensaernïaeth y tu ôl i Brifysgol Caergrawnt ac UCL. Gan fyfyrio ar y canlyniadau, dywedodd Dr Juliet Davis, Pennaeth yr Ysgol:

‘Rydym yn falch iawn bod yr Ysgol, unwaith eto, wedi arddangos ei chryfderau drwy'r canlyniad hwn. Er y byddai'n gamgymeriad cymryd perfformiad cryf yn y tabl cynghrair hwn yn ganiataol, mae'r canlyniad hwn yn rhoi hyder i ni yn ein cyfeiriad, ein cenhadaeth a'n hymdrechion parhaus fel Ysgol.'

I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau pensaernïaeth yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, ewch i'r tudalennau cwrs.

Rhannu’r stori hon