Cyllid Ymddiriedolaeth Wellcome ar gyfer cyffuriau posibl sy’n targedu canser y fron
4 Hydref 2021
Canser y fron yw'r canser mwyaf cyffredin a dyma achos mwyaf marwolaeth yn sgîl canser yn y DU. Mae Partneriaeth Drosiadol Sefydliadol Wellcome wedi dyfarnu cyllid i Brifysgol Caerdydd i ymchwilio i darged therapiwtig posibl ar gyfer canser y fron negyddol-driphlyg.
Mae Ymddiriedolaeth Wellcome wedi dyfarnu £17,592 i’r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau i ariannu ymchwil i ddarganfod targedau ar gyfer y protein LIMK1 a'i rôl yn y math ymosodol hwn o ganser y fron.
Dyma a ddywedodd Dr Ross Collins, Prifysgol Caerdydd: “Mae Canser y Fron Negyddol-Driphlyg yn ymosodol iawn ac fel arfer nid yw’n ymateb i driniaethau canser presennol. Yn aml mae gan gleifion sydd â chanser y fron hwn prognosis gwaeth. Mae taer angen therapïau newydd arnon ni sy'n gwella'r canlyniadau i gleifion sydd â'r math hwn o ganser.
“Mae protein LIMK1 yn gorymddangos mewn tiwmorau yn achos canser y fron negyddol-driphlyg ac mae'n gysylltiedig ag ymlediad canser o amgylch y corff.
“Mae tystiolaeth gynyddol bod LIMK1 yn ymgeisydd cryf ar gyfer targed therapiwtig yn erbyn canser yn y dyfodol. Ein nod yw defnyddio'r ymchwil bresennol i ddod o hyd i gyffuriau newydd sy'n targedu protein LIMK1.
“Bydd cyllid Ymddiriedolaeth Wellcome yn caniatáu inni brofi’r targed newydd hwn yn erbyn canser y fron yn ogystal â sgrinio cyffuriau newydd i ganfod eu heffeithlonrwydd. Ein nod yw cynyddu ein gwybodaeth am ganser y fron negyddol-driphlyg a gweithio tuag at therapïau newydd yn y dyfodol ar gyfer y canser ymosodol hwn. "